I ddweud diolch i ffrindiau ac aelodau gwerthfawr Ensemble Cymru, rydym wedi sefydlu Darganfod Cerddoriaeth Siambr, rhan newydd o’n gwefan lle byddwch yn dod o hyd i gynnwys gwell, ffeithiau cyffrous a straeon anhygoel yn arbennig i chi.
Erthyglau
Mae un o’n hofferynnau ar goll!
Mae yna dri math gwahanol o driawd offerynnol. Mae modd cael dwy ffidil a fiola, neu ddwy ffidil a soddgrwth, neu ffidil, fiola a soddgrwth. Efallai y byddai sinig yn dweud fod triawd llinynnol yn swnio fel pedwarawd llinynnol gydag un o’i chwaraewyr ar goll ….. darlenwch mwy
Ynghudd am 90 mlynedd!
“Y clarinét yw’r chwythbren gorau o ddigon”. Wel, dyna ddatganiad dadleuol, os bu un erioed! Rydw i’n siŵr y byddai’r clarinetydd Peryn Clement-Evans, sylfaenydd Ensemble Cymru, yn cytuno’n llwyr! ….. darlenwch mwy
Cread y Triawd Cyrs
Ar ôl y Rhyfel Byd Cyntaf, roedd Margaret a Gwendoline Davies yn ôl o Ffrainc ac yn brysur yn sefydlu Neuadd Gregynog fel canolfan lewyrchus ar gyfer y celfyddydau.… darlenwch mwy

