ysgod eang o gerddoriaeth - perfformiadau gwych - ymysg ffrindiau
Perfformiadau anffurfiol misol 50 munud o hyd i godi'r ysbryd gyda cherddoriaeth fyw gan gerddorion Ensemble Cymru.
Mynediad: Am ddim - rydym yn ddiolchgar am roddion i'r elusen ar-lein a thrwy modd casgliad.
Cerddorion:
Richard Ormrod – piano
Elenid Owen – feiolín
Cerddoriaeth:
Bydd ‘diweddglo’ Ensemble Cymru i Gyfres ‘Ystafell Gerdd’ 2024-25 yn cynnwys dau waith siambr anhygoel ar gyfer feiolín a phiano o ddechrau’r ugeinfed ganrif. Mae Claude Debussy ac Edward Elgar, yn eu ‘Hafau Indiaidd’, yn ildio i hiraeth wrth iddynt fynegi eu meddyliau, syniadau a’u teimladau mwyaf mewnol yn erbyn y digwyddiadau anferthol oedd yn digwydd mor gyflym ar draws Ewrop.
Dyddiad 12/07/2025 Amser 11:00 am - 11:45 am
Lleoliad Gregynog