Yr wythnos hon, mae Cadeirydd Ensemble Cymru Adrian Barsby, o Barsby Associates, wedi diffodd ei ffôn symudol, wedi gosod ei nodyn ‘allan o’r swyddfa’ ar ei ebost ac wedi ffarwelio â’r byd a’r betws am gyfnod!
Mae Adrian yn mynychu wythnos o ddysgu Cymraeg yn Nant Gwrtheyrn, ble mae pobl o bob cefndir bywyd yn dewis dysgu’r iaith, a hynny heb ymyrraeth o’r byd tu allan tra eu bod yno.
Cyn i Adrian fentro drosodd i Ben Llŷn fe ddywedodd wrthym “Mae wythnos gyfan yn yr ystafell ddosbarth a dim ond cyfathrebu yn y Gymraeg yn her ond yn un yr wyf i’n edrych ymlaen ato.”
Rydym yn edrych ymlaen at glywed yr hanes ganddo!