Bydd Ensemble Cymru, pencampwyr cerddoriaeth siambr, yn croesawu gwestai arbennig iawn fel rhan o lansio eu Cyfres Gyngherddau newydd sbon am 2016/17. Bydd Anne Denholm, telynores swyddogol Tywysog Cymru, yn perfformio fel rhan o’r pedwarawd yn y cyntaf o gyngherddau Ensemble Cymru a gynhelir mewn mannau ar draws Cymru fis Hydref a Thachwedd eleni.
Gan ddechrau yn Pontio ym Mangor ddydd Sul 30 Hydref, bydd Ensemble Cymru’n mynd ar daith i fannau ledled Cymru, yn cynnwys Venue Cymru, Llandudno, Galeri yng Nghaernarfon, Neuadd Dwyfor ym Mhwllheli, Canolfan Ucheldre Caergybi, Capel Gad yng Nghilcain ger Yr Wyddgrug, a gorffen yng Nghanolfan y Celfyddydau Aberystwyth ar 27 Tachwedd.
Fel rhan o genhadaeth yr Ensemble i roi amlygrwydd i’r gerddoriaeth siambr orau o Gymru a ledled y byd, mae rhaglen taith Hydref a Thachwedd yn cynnwys cymysgedd rhyngwladol cyffrous o ddarnau, yn cynnwys sonatâu o’r cyfnodau Baróc a Chlasurol cynnar gan Vivaldi a C.P.E. Bach. Yn y rhaglen hon hefyd ceir y Capriccio bywiog gan Franz Poenitz a Deialogau gan y cyfansoddwr Cymreig nodedig Mervyn Burtch.
Dywedodd Anne, sy’n wreiddiol o Sir Gaerfyrddin yng Ngorllewin Cymru, cyn y daith:
“Mae bob amser yn bleser pur cael dod i Gymru i berfformio – mae’n dal i deimlo fel cartref! Rwyf wedi cael amser hynod gyffrous ac ysbrydoledig wrth weithio gydag Ensemble Cymru hyd yma, ac rwy’n edrych ymlaen yn fawr at ymarfer a pherfformio’r rhaglen amrywiol rydym wedi’i llunio ar gyfer cyfres gyngherddau’r hydref yma – mae yna rywbeth i bawb ynddi!”
Bydd Peryn Clement-Evans, prif glarinetydd a Chyfarwyddwr Artistig Ensemble Cymru, yn perfformio fel rhan o’r pedwarawd yr hydref hwn, gyda’r delynores Anne Denholm, Johnathan Rimmer ar y ffliwt a’r baswnydd Llinos Elin Owen, sy’n enedigol o Bwllheli.
Ewch i ein tudalen digwyddiadau i weld manylion llawn dyddiadau’r daith. Mae tocynnau ar werth yn awr ym mhob un o’r lleoliadau.