gan Jonathan Lyness
Curadur y Rhaglen
Rwyf bob amser yn meddwl am y clarinét fel offeryn hydrefol. Mae’n fy atgoffa o’r gerdd fendigedig gan John Keats,
To Autumn, a ysgrifennwyd tuag at ddiwedd ei oes, gyda’i linellau agoriadol “Season of mists and mellow fruitfulness, Close bosom-friend of the maturing sun” .

Roedd Brahms, tuag at ddiwedd ei oes, wedi ymddeol o gyfansoddi, ond wedi hynny, clywodd y clarinetydd Richard Mühlfeld yn chwarae Clarinet Concerto No.1. o waith Carl Maria von Weber. Ysbrydolodd chwarae Mühlfeld Brahms i gyfansoddi pedwar campwaith clarinét rhagorol, gan gynnwys dwy sonata. Efallai, i Brahms, fod y cyfan yn gwneud synnwyr perffaith, y cyfansoddwr yn cysylltu aeddfedrwydd hydrefol y clarinét ag ymdeimlad o heddwch a llonyddwch gorffwysol. Ac efallai, fel unigolyn a fu’n anlwcus yn rhamantaidd, ei fod yn adnabod Keats…

Rheswm arall pam fod mod i’n bersonol yn cysylltu’r clarinét ag adran ‘aeddfed’ fy mywyd yw bod fy nhaid yn arfer chwarae’r offeryn. Gallaf ei weld yn chwarae o hyd, gyda fy nhad wrth y piano. Dysgodd fy mrawd hŷn i chwarae’r fiola, a phan nad oeddent oll gyda’i gilydd yn chwarae Kegelstatt trio Mozart (a berfformiwyd gan EC flwyddyn yn ôl), roeddent yn brysur yn chwarae sonatâu clarinét Brahms ar wahân. Gall y sonatâu clarinét gael eu chwarae ar y clarinét ac ar y fiola. Mae chwaraewyr fiola’n aml yn dwyn repertoire y clarinét, er yn yr achos hwn, creodd Brahms fersiynau’n arbennig ar gyfer y fiola. Felly, cefais fy magu yn eu clywed yn chwarae’r ddau offeryn, a gallaf eu dychmygu’n eu chwarae o hyd!
Yn ôl yn 1811, roedd Weber wedi ysgrifennu ei ddau goncerto clarinét yn F leiaf ac E fflat fwyaf, a thalodd Brahms deyrnged iddo drwy gyfansoddi ei ddwy sonata ef yn yr un cyweiriau. Mae’r sonata E fflat fwyaf mewn tri symudiad, yn fras, ar ffurf araf-cyflym-araf, gyda symudiad canol angerddol a chynhyrfus. Mae’r symudiad cyntaf yn agor yn syml ac yn osgeiddig gydag un o’r themâu arddull Brahms hynny sy’n teimlo fel y gallai barhau am byth, ac mae’r symudiad tyner olaf yn gorffen gyda thipyn o addurnwaith. Mae’r mynegiant a’r crefftwaith drwy gydol y darn yn gwbl fendigedig ac yn arddangos bod pwerau Brahms, ac yntau’n 61 oed, yn parhau i fod ar eu hanterth, yn union fel yr oedd Verdi flwyddyn ynghynt pan berfformiwyd ei opera Falstaff am y tro cyntaf, ac yntau’n 79 oed! Mae cyfansoddwyr yn cyfansoddi’n ddibendraw…
Mae Sonata Clarinet Poulenc o 1962 hefyd yn gorffen gyda thipyn o addurnwaith, ac fel yn achos Brahms, ysgrifennwyd y gwaith ar ddiwedd ei oes – ni fu fyw i’w glywed erioed. Gyda hyn, fodd bynnag, mae’r tebygrwydd i Brahms yn dod i ben. Mae’r tri symudiad, yn fras, yn dilyn y patrwm cyflym-araf-cyflym, yn groes i Brahms, er bod gan y symudiad agoriadol adran ganolog araf. Mae Polenc wedi rhoi ei stamp ei hun dros y gwaith i gyd, gyda rhythmau taro pigog a harmonïau tirion. Yn wahanol i waith Brahms, nid yw gwaith Poulenc, gyda’i neidiau a’i addurnwaith, yn addas ar gyfer y fiola. Mae bron fel petai Poulenc yn ymwybodol o chwaraewyr fiola’n prowlan ac yn ceisio eu cadw draw! Perfformiwyd y gwaith am y tro cyntaf gan Benny Goodman a Leonard Bernstein; credaf fod hynny’n dweud y cyfan.

Cerddorion
- Chris Goodman– clarinét
- Richard Ormrod – piano
Rhaglen
- Johannes Brahms – Sonata Op. 120 No. 2 in E-flat major for Clarinet and Piano (1894)
- Francis Poulenc – Sonata for Clarinet and Piano (1962)
- Elisabeth Lutyens – 5 Little Pieces for Clarinet and Piano (1945)
Digwyddiadau
- 11.00am, Sad 9 Mai 2026, Neuadd Gregynog, Tregynon
- 11.00am, Sul 10 Mai 2026, Theatr y Ddraig, Abermawr
- 4.00pm, Sul 10 Mai 2026, Eglwys Santes Fair, Conwy
- 11.00am, Llun 11 Mai 2026, Neuadd Dwyfor, Pwllheli
