Clarinét: Christopher Goodman

Ers graddio o’r Coleg Cerdd Brenhinol yn 2010 lle bu’n astudio fel Ysgolor Sylfaen, mae Chris wedi bod yn perfformio gyda cherddorfeydd, grwpiau siambr, cwmnïau opera a chynyrchiadau theatr yn ogystal ag yn y stiwdio recordio, ac o bryd i’w gilydd fel unawdydd.

Perfformiodd ail goncerto Weber yng Nghanolfan Celfyddydau Dwyreiniol Shanghai a choncerto Mozart yn St. Giles-in-the-Fields, Llundain gyda’r London Arte Chamber Orchestra. Mae ymddangosiadau siambr diweddar yn cynnwys Pedwarawd Brahms yn St James Piccadilly gyda’r Orpheus Sinfonia a Prokovief Hebrew Themes yng Ngŵyl Chichester.

Mae’n dilyn gyrfa gerddorfaol lawrydd brysur ac mae wedi perfformio gyda cherddorfeydd megis y London Symphony Orchestra, Philharmonia Orchestra, Royal Philharmonic & Royal Philharmonic Concert Orchestras, Royal Northern Sinfonia, English National Opera, Birmingham Royal Ballet, Ulster Orchestra a Manchester Camerata. Roedd ar brawf ar gyfer rôl is-brif Glarinet gyda Bournemouth Symphony Orchestra a’r un rôl gydag Opera Cenedlaethol Cymru.

Pan nad yw’n perfformio, mae Chris yn mwynhau creu cerddoriaeth fyrfyfyr ar y Sacsoffon Tenor, darllen a rhedeg cyn belled ag y mae ei goesau’n gadael iddo.