gan Jonathan Lyness
Curadur y Rhaglen
Wrth feddwl am ddeuawd ffidil a soddgrwth, y gwaith sy’n dod i fy meddwl yn gyntaf yw’r Double Concerto in A minor o waith Brahms, sef ei waith cerddorfaol olaf, a gyfansoddwyd yn 1887. Er bod gan y ddeuawd ffidil/soddgrwth ei repertoire ei hun, heb fod angen cerddorfa o gwbl, nid yw’r repertoire mor eang ac y gallai rhywun ei ddisgwyl. Yn y cyfnod clasurol, roedd y cyfuniad deuawd dwy ffidil neu ffidil/fiola yn cael ei ffafrio’n helaeth. Tybiaf mai’r broblem yw bod y soddgrwth, gan fod ei nodau gymaint yn is na’r ffidil, wedi’i fwriadu ar gyfer rôl gyfeilio yn unig o bosibl. Er mwyn i’r ddau offeryn gymryd tro yn cyfeilio i’w gilydd, rhaid i’r soddgrwth godi i nodau uwch. Credwch neu beidio, dyma sy’n digwydd ar fwrdd HMS Surprise yn y ffilm boblogaidd 2003, ‘
Master and Commander’, gyda Russell Crowe a Paul Bettany yn serennu, sydd gyda’i gilydd, fel chwaraewr ffidil a chwaraewr soddgrwth, yn ‘chwarae’ gwaith hyfryd gan Boccherini!

Yn ei waith hyfryd Duo in D major, nid yn unig y mae Haydn yn symud y soddgrwth i chwarae nodau’r ffidil – fel y gall y ddau offeryn gyfeilio i’w gilydd – ond mae’n plethu’r ddau hefyd fel eu bod yn chwarae deuawd go iawn. Mae’n enghraifft o ysgrifennu canmoladwy iawn, ac eithaf newydd yn ei gyfnod, er bod Haydn yn gwybod beth oedd yn ei wneud – llwyddodd hefyd i ddefnyddio’r offeryn mewn dau goncerto soddgrwth llwyddiannus iawn. Ond yn ei driawdau piano, cadwodd Haydn at y patrwm arferol. Ni welwyd defnydd o’r soddgrwth yn chwarae nodau’r ffidil eto tan Beethoven a Schubert, mewn triawdau piano a gyfansoddwyd ychydig ddegawdau’n ddiweddarach. Roedd rhai rhannau o’r gweithiau, yn enwedig symudiadau araf Schubert, yn teimlo fel deuawdau ffidil/soddgrwth a’r piano, gyda’r ffidil a’r soddgwrth yn plethu eu llinellau melodaidd gyda’i gilydd.

Chwe deg mlynedd yn ddiweddarach, gwnaeth Brahms yr un peth yn ei Double Concerto, lle mae’r ysgrifennu ar gyfer y soddgwrth yn enwog o uchel, gyda rhai sylwebwyr yn disgrifio’r ddau offeryn fel petaent yn ymddwyn fel un offeryn llinynnau mawr. Efallai i’r gwaith hwn fod yn sbringfwrdd i’r deuawd ffidil/soddgwrth, gan ei baratoi’n dda ar gyfer yr 20fed ganrif, pan, yn sydyn, ymddangosodd deuawdau ffidil/soddgrwth llwyddiannus gan gyfansoddwyr di-rif, dros gyfnod cryno o tua 20 mlynedd, gan gynnwys Glière, Ravel, Honegger, Kodaly, Martinu, Villa-Lobos, Imogen Holst, Rebecca Clarke a Frederick Delius, y mae ei waith o 1915 yn goncerto dwbl yn arddull Brahms yn hytrach na deuawd.

Ysgrifennodd Kodaly ei waith Duo for Violin and Cello ef yn 1914, pan oedd y rhyfel ar fin cyrraedd. Mae’r gwaith yn fawr ac yn fentrus, weithiau’n ddirdynnol, weithiau’n optimistaidd, ac yn llawn egni rhythmig ar hyd yr amser. Ar y dechrau, roedd cyfraniad Rebecca Clarke yn 1916 yn ddeuawd fiola/soddgrwth, ond cafodd ei addasu ganddi ar gyfer y ffidil/soddgrwth. Roedd y Sonata for Violin and Cello o waith Ravel, a gyfansoddwyd rhwng 1920 ac 1922, yn deyrnged i Debussy, a fu farw ar ddiwedd y rhyfel. Yma, mae Ravel yn dod o hyd i gyfoeth newydd o ran effaith, gyda’r ddau offeryn yn plethu mewn llinellau cyferbwyntiol iawn, gan ymgymryd â dewiniaeth dechnegol fel stopiau dwbl, synau harmonig a pizzicato. Weithiau, mae’r ddau offeryn yn ymddangos fel petaent yn cyd-fynd â’i gilydd; weithiau, maent yn chwarae mewn cyweiriau ar wahân! Mae’n ymddangos fod y berthynas hon yn eithaf ansefydlog.
Cerddorion
- Elenid Owen – violin
- Nia Harries – cello
Rhaglen
- Joseph Haydn – Duo in D Major Hob VI:D1 (c.1780)
- Maurice Ravel – Sonata for Violin and Cello (1922) – Detholiad
- Zolton Kodaly – Duo for Violin and Cello Op 7 (1914) – Detholiad
- Rebecca Clarke – Grotesque for Violin and Cello (1916)
Digwyddiadau
- 1.00pm, Mer 27 Mai 2026, Ty Pawb, Wrecsam
- 11.00am, Sad 13 Mehefin 2026, Neuadd Gregynog, Tregynon
- 11.00am, Sul 13 Mehefin 2026, Theatr Y Ddraig, Abermaw
- 4.00pm, Sul 14 Mehefin 2026, Eglwys Santes Fair, Conwy
- 11.00am, Llun 15 Mehefin 2026, Neuadd Dwyfor, Pwllheli
