Cafodd Nia yr anrhydedd o fod yn fyfyrwraig i Jacqueline du Pre am sawl blwyddyn, a hefyd yn fyfyrwraig i Steven Isserlis tra’r roedd hi yn Ysgol Gerdd y Guildhall. Mae wedi gweithio’n helaeth gyda grwpiau cerddoriaeth gynnar gan gynnwys Cerddorfa’r Age of Enlightenment a’r Orchestre Revolutionnaire et Romantique.
Mae ganddi ddiddordeb mewn cerddoriaeth gyfoes hefyd, a chyfansoddodd Alun Hoddinott ei 3ydd Sonata i’r soddgrwth ar ei chyfer, yn ogystal â thriawd i’r piano. Mae ei gwaith perfformio a cherddoriaeth siambr yn cynnwys sawl cyngerdd yn Neuadd Wigmore a Chanolfan y South Bank. Roedd yn athrawes ar Raglen Hyfforddiant y Llinynnau yn Ysgol Gerdd y Guildhall am sawl blwyddyn.
Mae ei phrosiectau cyfredol yn cynnwys cyfansoddi cerddoriaeth ar gyfer y llyfr The Unwinding gyda’r awdur/artist sydd wedi ennill gwobrau, Jackie Morris.
Ar wahân i gerddoriaeth, mae’n mwynhau bod yng nghefn gwlad Sir Benfro gyda’i cheffylau a’i chi.
Cymhellol…eithriadol o apelgar.
The Strad

