Basŵn: Alanna Pennar-Macfarlane

Mae Alanna Pennar-Macfarlane yn fasŵnydd sy’n hanu o Swydd Clackmannan yn yr Alban yn wreiddiol. Ar ôl dechrau ar y clarinét symudodd Alanna i’r basŵn yn ei harddegau ac aeth hi i’r Royal Conservatoire of Scotland bob dydd Sadwrn i fynychu’r adran iau.

Ar ôl cael ei hysbrydoli yn yr Alban aeth hi i’r Royal Academy of Music yn Llundain i astudio gyda John Orford a Robin O’Neill cyn astudio cwrs ôl-radd yn y Royal College of Music gyda Julie Price, Joost Bosdijk a Sarah Burnett.

Mae Alanna wedi gweithio gyda llawer o gerddorfeydd proffesiynol, gan gynnwys: The Royal Opera House, Bournemouth Symphony Orchestra, Royal Philharmonic Orchestra a Britten Sinfonia. Mae bellach yn byw yng Nghaerdydd ac yn gerddor llaw-rydd, athrawes cerddoriaeth, a pherchennog busnes bach sy’n helpu pobl eraill i ddysgu Cymraeg wedi iddi ddysgu’r iaith yn ystod y pandemig. Yn ei hamser sbâr, mae’n mwynhau gemau bwrdd, teithio, a threulio amser gyda’i chath.