Mae Alena Walentin yn mwynhau gyrfa ryngwladol fel unawdydd, cerddor siambr, trefnydd ac athrawes. Bu’n brif chwaraewr ffliwt gyda ROH Covent Garden, London Concert Orchestra, Halle, London Mozart Players, Verbier Chamber Orchestra, BBC Scottish Symphony Orchestra, BBC NOW ac eraill.
Mae hi’n Artist Altus, yn Gyfarwyddwr Artistig yr ŵyl ryngwladol Soundscape MS ac yn gyn Is-gadeirydd Cymdeithas Ffliwt Prydain.
Mae Alena yn beirniadu mewn ystod eang o brif gystadlaethau ffliwt rhyngwladol, wedi addysgu mewn nifer o conservatoires ac wedi cyflwyno dosbarthiadau meistr drwy gydol Ewrop, yr UDA a’r dwyrain pell. Enillodd Atéa, ei phumawd chwyth, wobr ddwbl yng Nghystadleuaeth Cerddoriaeth Siambr Carl Nielsen ac mae’r pumawd ar hyn o bryd yn Ensemble Preswyl yn y Birmingham Conservatoire.
Dewiswyd CD cyntaf Alena fel “CD yr Wythnos” gan Radio Cenedlaethol Denmarc. Ers hynny, mae hi wedi recordio ar gyfer labeli recordiau yn y Swistir, yr Almaen a Denmarc a chyn bo hir bydd ei recordiad o gerddoriaeth ar gyfer ffliwt a gitâr gan gyfansoddwyr benywaidd yn cael ei ryddhau gan NAXOS.
Yn ei amser hamdden mae Alena wrth ei bodd yn paentio, darllen, sglefrolio a gwrando ar yr adar yn canu


