Posted on

Elusennau Cerdd yn cydweithio i gefnogi perfformwyr yn ystod y pandemig

Mae gobaith newydd i gerddorion a chantorion llawrydd yng Nghymru y mae eu bywoliaeth wedi cael eu difetha gan y pandemig presennol.

Bydd dwy elusen gerddorol Gymreig yn codi arian i gefnogi perfformwyr, cyfansoddwyr ac ymarferwyr cerdd i weithio gyda’u cymunedau lleol trwy gyfrwng cerddoriaeth. Gydag arian a godir, mae Ensemble Cymru ac Opera Canolbarth Cymru ynghyd â chymorth cantorion a cherddorion lleol yn gobeithio rhoi cerddoriaeth yn ôl yng nghalon cymunedau Cymru ’.

Darllenwch fwy Elusennau Cerdd yn cydweithio i gefnogi perfformwyr yn ystod y pandemig
Posted on

Cerddoriaeth eich Milltir Sgwâr

Ydych chi’n gerddor, yn ganwr, yn gyfansoddwr opera, cerddoriaeth leisiol neu gerddoriaeth siambr? Hoffech chi wneud rhywbeth cadarnhaol yn ystod Covid-19 i gysylltu a chreu cerddoriaeth gyda’ch cymuned leol yng Nghymru? Allwch chi feddwl am brosiect newydd y gellir ei sefydlu a’i gyflwyno gyda grŵp cymunedol yn eich ardal leol?

Os mai ‘ydw, hoffwn a gallaf’ yw’r atebion i’r uchod, darllenwch ymlaen!

Darllenwch fwy Cerddoriaeth eich Milltir Sgwâr