Ydych chi’n gerddor, yn ganwr, yn gyfansoddwr opera, cerddoriaeth leisiol neu gerddoriaeth siambr? Hoffech chi wneud rhywbeth cadarnhaol yn ystod Covid-19 i gysylltu a chreu cerddoriaeth gyda’ch cymuned leol yng Nghymru? Allwch chi feddwl am brosiect newydd y gellir ei sefydlu a’i gyflwyno gyda grŵp cymunedol yn eich ardal leol?
Os mai ‘ydw, hoffwn a gallaf’ yw’r atebion i’r uchod, darllenwch ymlaen!
Mae Opera Canolbarth Cymru ac Ensemble Cymru’n awyddus i gefnogi perfformwyr a chyfansoddwyr i weithio gyda’u cymunedau a chreu prosiectau…
- y gellir eu cynnal rhwng mis Tachwedd 2020 a diwedd mis Mawrth 2021 ac sy’n cydymffurfio â rheoliadau newidiol Covid-19
- cychwyn prosiect cerddorol sy’n wirioneddol gymunedol; wedi ei wreiddio yn y gymuned, yr hanes, y dirwedd neu’r diwylliant lleol
- prosiect a fydd yn arwain at berfformiad hybrid, sy’n cael ei gyflwyno’n fyw ac yn ddigidol
- galluogi cymuned neu ran o gymuned yng Nghymru i greu cysylltiad gydag opera neu gerddoriaeth siambr
Beth allwn ni ei gynnig i chi…
- rhwng £500 a £5,000 i dalu am gostau’r prosiect cyfan
- cynghori ar berfformio ac agweddau technegol ar y gwaith
- helpu gyda phob agwedd ar y marchnata
Os oes gennych chi syniad, plîs…
eglurwch eich syniad yn FYR – yn Gymraeg neu Saesneg – un ai mewn 300 gair ysgrifenedig neu mewn recordiad 2 funud, sy’n cynnwys:
- eich enw a’ch manylion cyswllt
- beth yw eich syniad
- lle mae eich cymuned
- pam rydych chi eisiau gwneud y prosiect / yr ysbrydoliaeth ar gyfer y syniad
- pwy sy’n rhan o’r prosiect a sut
- beth fyddai’n ei gostio
Dylai’r syniadau ein cyrraedd ni erbyn 5pm ddydd Gwener, Tachwedd y 6ed, anfonwch e-bost at lydia@midwalesopera.co.uk.
Byddwn wedyn yn rhoi gwybod i chi erbyn dydd Gwener, Tachwedd 13eg os byddwn yn eich dewis i ymuno â ni i ddatblygu eich prosiect i fynd ymlaen i’r ail gam, a fydd yn golygu anfon mwy o fanylion atom ni.
Darllenwch fwy am Cerddoriaeth eich Milltir Sgwar / Music at Your Place – Prosiect a ddatblygwyd ar y cyd rhwng Opera Canolbarth Cymru/Ensemble Cymru mewn ymateb i COVID-19.