Posted on

Pam Dalcroze i Gymru? Gan Bethan Habron-James


Fe gefais i’r fraint o fynd i Genefa i astudio Dalcroze Eurhythmics ar ddiwedd y 90au, ar ol rhai blyndyddoedd o astudio rhan amser ym Manceinion. Ar ddiwedd fy nhreithawd hir ar gyfer fy arholiadau gradd fe ysgrifennais mai fy mreuddwyd un dydd, fyddai i rannu y dull addysg arloesol yma gyda fy nghydwladwyr Cymreig. Fe esboniais i fi dderbyn addysg gerdd wych yn fy mhlentyndod, yn llawn canu a chwarae offerynnol ond na fu unrhyw gysylltiad rhwng yr addysg gerdd a’r addysg gorfforol (heblaw dawnsio gwerin, lle roedd y ddwy grefft yn cydfodoli ond doedd dim perthynas rhwng y symud a’r addysg gerddorol).

Hanfod unigryw Dalcroze Eurhythmics yw dysgu am gerddoriaeth trwy gerddoriaeth, a thrwy ymateb greddfol y corff. Mae’r athr(o)/awes yn chwarae cerddoriaeth byrfyfyr, neu wedi ei recordio, i ddwyn y dosbarth i ymateb i’r swn trwy symudiad naturiol y corff. Mae’n bosib dysgu, a phrofi pob elfen o gerddoriaeth trwy’r cyhyrau mawr yn gyntaf cyn rhoi pwyslais ar y cyhyrau manwl – yr hyn sy’n digwydd wrth chwarae offeryn. Dyma sut mae’r corff wedi dysgu ers plentyndod ac mae’n gwneud synhwyr i baratoi y corff yn ei gyfanrwydd cyn dechrau chwarae offeryn cerdd; ei baratoi i wrando, i ymateb yn chwim a hyblyg, i gydsymud yn briodol, i fod yn ymwybodol o eraill ac o’r gofod o’i amgylch, i danio’r dychymyg, ac ati. Darllenwch fwy Pam Dalcroze i Gymru? Gan Bethan Habron-James