Posted on

Y sesiynau ‘cyflwyno’: Dewch i gwrdd â Llio…

Llio Evans
Llio Evans
Dewch i adnabod y cerddorion y tu ôl i’r offerynnau gyda’n sesiynau ‘cyflwyno’!

Dewch i gwrdd â Llio Evans, ein soprano wych a fydd yn perfformio fel rhan o Ensemble Cymru yn ystod ein Cyngherddau Coffi ym mis Tachwedd.
Darllenwch fwy Y sesiynau ‘cyflwyno’: Dewch i gwrdd â Llio…

Posted on

Cantores leol yn helpu’r Ensemble i gael llais

Llio cropped

Mae gwledd arbennig yn disgwyl cerddgarwyr Bangor, wrth i Pontio baratoi i gynnal cyngerdd unigryw ar 3 Ebrill, gyda cherddorion o Ensemble Cymru a sêr gwadd o Gorws Cenedlaethol Cymreig y BBC – yn cynnwys y soprano o Fôn, Llio Evans.

Fel rhan o gyfres Pontio Cerddoriaeth ym Mangor, bydd Pedwarawd Mavron a chantorion o Gorws Cenedlaethol Cymreig y BBC yn ymuno ag ensemble preswyl Prifysgol Bangor a Venue Cymru, Ensemble Cymru, ar gyfer noson fythgofiadwy o gerdd a chân.

Bydd rhaglen y noson yn llwyfannu cerddoriaeth o’r 18fed ganrif trwodd hyd at yr 20fed ganrif, yn cynnwys Cantata Coffi gan Bach, Wythawd gan Mendelssohn a Messe Modale gan Jehan Alain.

Meddai Cyfarwyddwr Artistig Ensemble Cymru, Peryn Clement-Evans:

“Rydym yn awyddus i gynnwys cantorion yng ngweithgareddau’r Ensemble ers i Ensemble Cymru gychwyn yn 2001. Gyda chymorth aelodau rhyfeddol Corws Cenedlaethol Cymreig y a’u corws-feistr Adrian Partington, rydym wedi cyrraedd carreg filltir gyntaf o bwys wrth sefydlu consort lleisiol o fewn yr Ensemble. Mae’r syniad o gyflwyno amrywiaeth ehangach fyth o gerddoriaeth i gynulleidfaoedd, cymunedau ac ysgolion ar draws Cymru yn arbennig o gyffrous. Wrth wneud hyn, rydym yn edrych ymlaen at greu mwy o gyfleoedd gwaith i gantorion penigamp yng Nghymru sy’n awyddus i ymuno â ni wrth inni rannu ein hangerdd tuag at gerddoriaeth siambr.”

Bydd talent o’r ardal yn ymuno â cherddorion Ensemble Cymru, wrth i’r soprano Llio Evans, sy’n hanu o Lanfairpwll, ddychwelyd i Ogledd Cymru gydag aelodau eraill Corws Cenedlaethol Cymreig y BBC i berfformio yn y gyngerdd. Meddai Llio, “Mae dod adref i berfformio bob amser yn gymaint o bleser, gan mai cynulleidfaoedd Gogledd Cymru yw’r gorau, wrth reswm! Mae cael cyfle i weithio mewn cysylltiad agos â cherddorion Ensemble Cymru wedi bod yn uchafbwynt gwirioneddol imi, ac rwy wedi cynhyrfu’n lân wrth ragweld ymateb y gynulleidfa i’n cydweithrediad.”

Gwybodaeth am y Gyngerdd

Cerddoriaeth ym Mangor: Ensemble Cymru gydag aelodau Pedwarawd Mavron ac aelodau o Gorws Cenedlaethol Cymreig y BBC

  • Nos Iau 3 Ebrill 2014 am 8pm
  • Neuadd Powis, Prifysgol Bangor
  • Hyd: 2 awr (un egwyl)
  • Tocynnau: £12 | £9 gostyngiadau |£3 myfyrwyr
    £25 tocyn teulu
  • Gellir prynu tocynnau dros y ffôn 01248 382828, arlein drwy Ganolfan Mileniwm Cymru. neu yn siop Pontio ar Stryd Fawr Bangor.