Y sesiynau ‘cyflwyno’: Dewch i gwrdd â Llio…

Llio Evans
Llio Evans
Dewch i adnabod y cerddorion y tu ôl i’r offerynnau gyda’n sesiynau ‘cyflwyno’!

Dewch i gwrdd â Llio Evans, ein soprano wych a fydd yn perfformio fel rhan o Ensemble Cymru yn ystod ein Cyngherddau Coffi ym mis Tachwedd.

Eich enw:

Llio Evans

Faint yw eich oedran?

27

O ble rydych chi’n dod?

Ynys Môn – Llanfair Pwllgwyngyll. Ond rwyf bellach yn byw yng Nghaerdydd.

Dywedwch wrthym amdanoch eich hun.

Rwy’n soprano ar drothwy gyrfa fel cantores opera, a newydd ennill Rhagoriaeth yn fy MA mewn Astudiaethau Lleisiol Uwch o Academi Lais Ryngwladol Cymru, dan gyfarwyddyd Dennis O’Neill. Cyn hynny, cefais hyfforddiant yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru. Rwyf newydd orffen tymor yn Garsington Opera, lle roeddwn yn Artist Ifanc yn yr haf.

Rhowch ychydig o wybodaeth inni am eich teulu.

Mae fy nheulu’n hynod o gefnogol ac yn falch iawn ohonof. Mae fy nhad yn dôn-fyddar, ond arferai fy mam ganu wrthyf pan oeddwn yn blentyn. Mae canu deuawdau â Mam wrth iddi chwyth-sychu fy ngwallt yn un o’m hatgofion cyntaf o ganu. Mae Mam yn dal i gredu ei bod yn canu orau i gyfeiliant sychydd gwallt neu sugnydd llwch.

Sut byddech chi’n disgrifio eich cerddoriaeth?

Opera rwy’n canu’n bennaf, ond rwy hefyd yn canu oratorio ac mewn cyngherddau. Rwyf wrth fy modd yn canu Mozart, Handel, Poulenc, Richard Strauss, Meirion Williams ac mae gennyf le yn fy nghalon hefyd i Ivor Novello.

A oes gennych unrhyw gigiau/ teithiau ar y gorwel?

Rwy’n teithio o gwmpas lleoliadau yng Ngogledd Cymru yn ystod yr wythnos gyntaf o Dachwedd fel rhan o dymor Cyngherddau Coffi Ensemble Cymru. Byddaf yn perfformio caneuon gan Richard Strauss, Meirion Williams a hefyd The Shepherd on the Rock gan Schubert ac A Garden of Weeds gan Terence Greaves.

Beth rydych chi fwyaf adnabyddus amdano?

Mae’n fwy na thebyg fy mod fwyaf adnabyddus am fy llwyddiannau yn Eisteddfod yr Urdd, yr Eisteddfod Genedlaethol a’r Eisteddfod Ryngwladol.

Llio_Twitter_pic2
Yn y rôl o Gretel yn ‘Hansel a Gretel’

Beth y gall pobl ei ddisgwyl o’ch gigiau?

Tiwniau – Rwy’n dwlu ar alaw dda. Byddaf hefyd yn hoffi cynnwys rhai caneuon comedi pan fyddaf yn gallu. Efallai fy mod yn soprano, ond mae gennyf hefyd synnwyr digrifwch! Mae A Garden of Weeds yn gyfres hynod o ganeuon byrion gyda chlarinét rwyf wrthi ar y funud yn ei pharatoi ar gyfer y daith ym mis Tachwedd. Bydd hynny’n sicr yn wahanol.

Soniwch wrthym am bum peth sy’n gwneud eich set yn wych.

Rwy’n lwcus iawn fy mod yn perfformio gyda dau gerddor rhyfeddol fel rhan o gyngherddau Ensemble Cymru – Anya Fadina ar y piano a Peryn Clement-Evans ar y clarinét. Byddwn yn perfformio cerddoriaeth ryfeddol o bedwar ban y byd, yn ogystal â cherddoriaeth gan gyfansoddwyr o Gymru. Mae’n gyfle i glywed rhai perlau nad ydynt yn cael eu perfformio’n aml iawn, yn ogystal â rhai clasuron, megis Wiegenlied gan Strauss, Mai gan Meirion Williams, a Shepherd on the Rock gan Schubert.” Yn aml, mae pobl yn cysylltu cerddoriaeth glasurol â cherddoriaeth ‘hen’ a ysgrifennwyd flynyddoedd maith yn ôl. Yr hyn sy’n wych am y gyngerdd hon yw ei bod yn dangos fel y mae cerddoriaeth glasurol wrthi o hyd yn ei hail-ddyfeisio ei hun, gyda cherddoriaeth yn amrywio o Richard Strauss (sy’n dathlu eleni 150 mlwyddiant ei eni) hyd at y presennol. A chan mai Cyngherddau Coffi ydynt, maent yn fyr ac yn felys (yn para am ryw awr), felly, os yw cerddoriaeth glasurol yn newydd ichi a chithau’n awyddus i gael blas, mae’r gyngerdd hon yn berffaith ichi.

Dywedwch wrthym beth sy’n dda am y lleoliadau

Rwyf mor falch fy mod yn mynd i berfformio mewn rhai lleoliadau hyfryd yng Ngogledd Cymru: Venue Cymru ar 6 ac 8 Tachwedd (10:30am), Canolfan Ucheldre yng Nghaergybi, hefyd ar 6 Tachwedd (3pm), Neuadd Dwyfor ym Mhwllheli ar 5 Tachwedd (1pm), Capel Gad yng Nghilcain ar 4 Tachwedd (8pm) a Lolfa’r Teras ym Mhrifysgol Bangor ar 7 Tachwedd (8pm). Rwy’n ddiolchgar dros ben am y cyfle i ddod â’m cerddoriaeth adref, i allu treulio peth amser gyda fy nheulu ac iddynt hwythau fy nghlywed yn canu’n fyw, sy’n beth digon prin.

Dywedwch rywbeth amdanoch eich hun nad oes llawer o bobl yn gwybod amdano:

Rwy’n dwlu ar weu ac ar bandas. Mae gennyf hefyd radd 3 mewn dawnsio Gwyddeleg.

Beth yw eich arferion gorau a gwaethaf?

Byddaf bob amser yn ceisio gweld y gorau mewn pobl. Dwy ddim yn berson boreol.

Cerddoriaeth pwy rydych yn gwrando arni?

Ar hyn o bryd, albwm Diana Damrau, Poésie.

Beth rydych chi fwyaf balch ohono’n gerddorol?

Y llynedd, recordiais ran fach Barbe o The Beauty Stone gan Arthur Sullivan mewn stiwdio gyda Cherddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC ar gyfer Chandos Records. Roedd yr unawdwyr eraill yn cynnwys Toby Spence, Elin Manahan Thomas a’m harwres bersonol, Rebecca Evans. Felly, gallaf ddweud gyda balchder fod gennyf gredyd ar CD gyda Rebecca Evans.

Pa gynlluniau sydd gennych ar y gorwel o ran eich gyrfa?

Mae gennyf rai pethau cyffrous i edrych ymlaen atynt: Fy Elijah cyntaf, a fydd hefyd yn ymddangosiad cyntaf i mi fel unawdydd yn St John’s, Smiths Square yn Llundain, a’m hymddangosiad cyntaf yn Symffoni Rhif 9 Beethoven yng Nghadeirlan Aberhonddu. Rwyf hefyd wrth fy modd y byddaf yn chwarae rhan Despina yng nghynhyrchiad Garsington Opera o Così Fan Tutte yr haf nesaf.