Priodas Figaro Mozart.. ar ein trothwy

Bydd Ensemble Cymru yn ymuno â chwmni Opera Canolbarth Cymru yn y gwanwyn mewn cynhyrchiad newydd o gampwaith Mozart, Priodas Figaro. Gan ddefnyddio cyfieithiad Saesneg Amanda Holden, bydd helyntion Figaro a’i ddarpar wraig Susanna wrth ymdrechu i dwyllo’u meistri, yn siwr o greu llond bol o chwerthin!  Mae’r cynhyrchiad wedi ei deilwra’n arbennig i’r gynulleidfa… Parhau i ddarllen Priodas Figaro Mozart.. ar ein trothwy

Dathlu Alawon

A hithau’n Ddiwrnod Cenedlaethol Awstria ddydd Sadwrn diwethaf , braf yw cyhoeddi y bydd teyrnged Cymreig i’r cyfansoddwr Awstraidd, Franz Schubert i’w glywed yn rhai o brif neuaddau cyngerdd Cymru yn ystod mis Tachwedd. Bydd grŵp cerddoriaeth siambr mwyaf blaenllaw Cymru, Ensemble Cymru yn perfformio gwaith gan un o gyfansoddwyr mwyaf y byd, sef Wythawd… Parhau i ddarllen Dathlu Alawon

Ensemble Cymru yn mynd ar eu taith fwyaf uchelgeisiol hyd yma o gerddoriaeth siambr

I gloi Tymor eu Pen-blwydd, mae ensemble cerddoriaeth siambr mwyaf blaenllaw Cymru, Ensemble Cymru, yn mynd ar eu taith gyngerdd fwyaf uchelgeisiol hyd yma a fydd yn cynnwys naw o gerddorion rhagorol a cherddoriaeth gan Handel hyd at Debussy, yn ogystal â gwaith comisiwn newydd sbon gan y cyfansoddwr o Gymro, Gareth Glyn.

Y sesiynau ‘cyflwyno’: Dewch i gwrdd â Katka…

Dewch i adnabod y cerddorion y tu ôl i’r offerynnau gyda’n sesiynau ‘cyflwyno’. Yn gyntaf y mae’r ychwanegiad newydd at deulu Ensemble Cymru, Katka Marešová. Ganed a magwyd Katka yng Ngweriniaeth Tsiec, a chyrhaeddodd Brydain fis Medi’r llynedd i dreulio blwyddyn yn astudio ym, Mhrifysgol Bangor. Ac mae’n ymddangos bod tirwedd garw, fynyddig gogledd Cymru… Parhau i ddarllen Y sesiynau ‘cyflwyno’: Dewch i gwrdd â Katka…

Llwyddiant dwbl i ddoniau Ensemble Cymru

Mae wedi bod yn wythnos nodedig ar gyfer dwy o sêr ifainc Ensemble Cymru, sef Collette Astley-Jones a Llinos Elin Owen, wrth iddynt ddathlu cael swyddi newydd, cyffrous! Stori Llinos Cafodd Llinos ei swydd gyntaf gydag Ensemble Cymru, Ensemble Preswyl ym Mhrifysgol Bangor a Venue Cymru, fel baswnydd proffesiynol fwy na deng mlynedd yn ôl.… Parhau i ddarllen Llwyddiant dwbl i ddoniau Ensemble Cymru

Cantores leol yn helpu’r Ensemble i gael llais

Mae gwledd arbennig yn disgwyl cerddgarwyr Bangor, wrth i Pontio baratoi i gynnal cyngerdd unigryw ar 3 Ebrill, gyda cherddorion o Ensemble Cymru a sêr gwadd o Gorws Cenedlaethol Cymreig y BBC – yn cynnwys y soprano o Fôn, Llio Evans. Fel rhan o gyfres Pontio Cerddoriaeth ym Mangor, bydd Pedwarawd Mavron a chantorion o… Parhau i ddarllen Cantores leol yn helpu’r Ensemble i gael llais

Collette’s Blog (Bangor University Student) Blog Collette (Myfyrwraig Prifysgol Bangor)

Hi everybody! My name is Collette Astley-Jones and I am currently a Masters student in Music at Bangor University. I’m also working alongside Ensemble Cymru as part of my ATM funding. I am a French Horn player and Chairperson of the Bangor University Music Society and I love every aspect of musical life at Bangor!… Parhau i ddarllen Collette’s Blog (Bangor University Student) Blog Collette (Myfyrwraig Prifysgol Bangor)