Posted on

Mae’n gerddoriaeth i’n clustiau – cantorion yn ymuno ag Ensemble Cymru ar gyfer ein tymor newydd o Gyngherddau Coffi

Mae Tachwedd yn garreg filltir o bwys i’r sefydliad cerddoriaeth siambr, Ensemble Cymru. Am y tro cyntaf erioed, bydd cantorion yn perfformio fel rhan o’r ensemble ar gyfer ei dymor newydd sbon o Gyngherddau Coffi – cyfres y Lleisiau Clasurol.

Bydd y soprano a anwyd ym Môn, Llio Evans, yn ymuno ag Ensemble Cymru ar gyfer ei daith ar draws Gogledd Cymru yn ystod yr wythnos gyntaf o Dachwedd. Bydd y gantores 27 oed sy’n gyn-enillydd yn Eisteddfod Ryngwladol Llangollen yn perfformio fel rhan o driawd ochr yn ochr â’r pianydd Anya Fadina a phrif glarinetydd yr Ensemble, Peryn Clement-Evans. Wrth siarad am y rhaglen, dywedodd Llio: Darllenwch fwy Mae’n gerddoriaeth i’n clustiau – cantorion yn ymuno ag Ensemble Cymru ar gyfer ein tymor newydd o Gyngherddau Coffi