Y Triawd Cyrs Enw i gyfuniad obo clarinet a baswn yw Trio d’Anche neu Triawd Cyrs. Fel mae’r enw yn ei awgrymu mae’r offerynnau ei gyd yn defnyddio corsen neu gyrs i greu’r sain. Cafodd ran fwyaf o’r gerddoriaeth ar gyfer y Triawd Cyrs ei chyfansoddi yn Ffrainc yn yr ugeinfed canrif gan gyfansoddwyr megis… Parhau i ddarllen Y Triawd Cyrs
Awdur: Peryn Clement-Evans
Diogelwyd: RapsgaliwnRapsgaliwn
Nid oes cyfran gan fod hwn yn gofnod wedi ei ddiogelu.
Mae Taith Harlecwin/Dyfroedd Byw yn nesau
Yr hanes hyd yn hyn….yn fyr….. Roedd ddoe yn ddiwrnod prysur. Teithiais i Gaerdydd i berfformio mewn cyngerdd amser cinio gyda Peryn a Harvey, yn Eglwys RHiwbina. Roedd hi’n braf gweld cymaint yn y gynulleidfa – ac rwy’n gobeithio’n fawr gweld rhai ohonynt dros y penwythnos.
Gweithio gydag Ensemble Cymru, gan y cyfansoddwr, Gareth Glyn
Rydw i wedi cael fy newis fel cyfansoddwr ar sawl achlysur ers blynyddoedd gan Ensemble Cymru – mudiad sy’n gwneud mwy na neb arall, dybiwn i, i godi ymwybyddiaeth o gerddoriaeth siambr yng Nghymru – felly roeddwn i wrth fy modd yn cael fy newis i gyfansoddi darn ar gyfer eu Taith Genedlaethol gynta nhw.
Dyfroedd Byw gan Gareth Glyn (Am y darn)
Mae 17 o wahanol offerynnau yn cael eu defnyddio yn rhaglen taith genedlaethol Ensemble Cymru (Mawrth – Ebrill 2012); mae’r gwaith hwn, a gomisiynwyd yn arbennig ar gyfer yr achlysur, yn defnyddio 16 ohonyn nhw gyda’i gilydd.
Clarinet ar Ddawns
Mae’r ychydig fisoedd diwethaf wedi bod yn hynod brysur, ac rwyf wedi bod yn ymrafael â fy ngwaith âg Ensemble Cymru i’r eithaf. Hyd yn hyn, rwyf wedi bod yn rhan o dorraeth o gyngherddau, arwain nifer o weithdai addysgiadol, ac wrth gwrs, chwarae llwyth o gerddoriaeth newydd!
