Dewch i adnabod y cerddorion y tu ôl i’r offerynnau gyda’n sesiynau ‘cyflwyno’. Yn gyntaf y mae’r ychwanegiad newydd at deulu Ensemble Cymru, Katka Marešová. Ganed a magwyd Katka yng Ngweriniaeth Tsiec, a chyrhaeddodd Brydain fis Medi’r llynedd i dreulio blwyddyn yn astudio ym, Mhrifysgol Bangor. Ac mae’n ymddangos bod tirwedd garw, fynyddig gogledd Cymru… Parhau i ddarllen Y sesiynau ‘cyflwyno’: Dewch i gwrdd â Katka…
Tag: cerddoriaeth siambr
Ensemble Cymru i gadw sŵn yn Galeri yr haf hwn
Mae Ensemble Cymru wrthi’n paratoi i gadw sŵn yn Galeri yng Nghaernarfon yr haf hwn, gyda chyfres o berfformiadau digymell. Lansiodd y grŵp cerddoriaeth siambr o Fangor ei perfformiad cyntaf ar Galeri nos Sul, pan wnaeth perfformiad byrfyfyr gan brif offerynnwr taro’r Ensemble, Dewi Ellis-Jones o Gaernarfon, i’r bar sefyll yn stond. Y perfformiad hwn yw’r… Parhau i ddarllen Ensemble Cymru i gadw sŵn yn Galeri yr haf hwn
Ensemble Cymru yn teithio i Fienna ar gyfer ClassicalNEXT
Bydd Ensemble Cymru yn hedfan y faner dros Gymru yn nigwyddiad ClassicalNEXT sydd i’w gynnal yn Fienna, Awstria, fis Mai hwn. Bu mwy na 1,000 o gwmnïau cerddoriaeth, unigolion ac arddangoswyr o fwy na 140 o wahanol wledydd yn bresennol yn y digwyddiad a gynhaliwyd y llynedd, a disgwylir i fwy fyth fod yn bresennol… Parhau i ddarllen Ensemble Cymru yn teithio i Fienna ar gyfer ClassicalNEXT

