Ensemble Cymru yn y Swistir

Fel rhan o Raglen Gyfnewid Diwylliannol Ensemble Cymru mae Ensemble Cymru wedi cael ei wahodd i berfformio ar ddiwrnod olaf Pencampwriaeth Gymreig yr Alpau yn Champéry yn Canton Valais (Wallis) yn y Swistir. Byddwn ni’n perfformio yn ddigwyddiad terfynol y gystadleuaeth ym mhresenoldeb Dirprwy Bennaeth Cenhadaeth a Conswl Cyffredinol Prydain yn y Swistir, Richard Ridout… Parhau i ddarllen Ensemble Cymru yn y Swistir

Triawd gwych Ensemble Cymru yn mynd ar daith ym mis Chwefror

Mae Ensemble Cymru, pencerddorion cerddoriaeth siambr, yn mynd ar eu taith gyntaf yn 2017 – a byddant yn cynnal cyngherddau ar draws Cymru. Y cerddorion arobryn yn cynnwys y feiolinydd Florence Cooke, y pianydd Richard Ormrod a chyfarwyddwr artistig a phrif glarinetydd Ensemble Cymru, Peryn Clement-Evans, fydd y triawd ar gyfer y daith ym mis… Parhau i ddarllen Triawd gwych Ensemble Cymru yn mynd ar daith ym mis Chwefror

Y delyn yn cloi cyngerdd olaf Ensemble Cymru

Bydd Ensemble Cymru yn cloi eu cyfres Cyngerdd Coffi gyda’r delyn yn cael lle canolog mewn rhaglen o gerddoriaeth siambr drawiadol a berfformir gan ensemble o saith, yn cynnwys pedwarawd llinynnol a thelynores wobrwyog o’r Swistir. Bydd taith y grŵp cerddoriaeth siambr o ogledd Cymru ym mis Mai yn dwyn ynghyd gerddoriaeth gan gyfansoddwyr o… Parhau i ddarllen Y delyn yn cloi cyngerdd olaf Ensemble Cymru

ChamberFest 2015: Bach

Rydym yn cynnal un o’r dathliadau mwyaf o gerddoriaeth siambr yng Nghymru a gelwir yr ŵyl yn ChamberFest. Y thema ar gyfer digwyddiad 2015 fydd cerddoriaeth J.S. Bach, a chynhelir y prif ddigwyddiad ar 20 a 21 Mawrth (21 Mawrth oedd pen-blwydd Bach). Y newyddion da yw bod y digwyddiad hwn yn agored i bawb! Rydym yn… Parhau i ddarllen ChamberFest 2015: Bach

Cael plant bach i fwynhau cerddoriaeth dda

Nid ydych byth yn rhy ifanc i fwynhau cerddoriaeth, a phrofwyd hyn gan ein Bore Cerddoriaeth i Bobl Bach i blant rhwng 0-3 oed yn gynharach y mis hwn. Gyda’r ifancaf yn y grŵp yn ddim ond tri mis oed, cafodd pawb amser gwych yn ein sesiwn Dalcroze Eurhythmics yn Neuadd Dwyfor, Pwllheli. Roedd y dosbarth… Parhau i ddarllen Cael plant bach i fwynhau cerddoriaeth dda

Y sesiynau ‘cyflwyno’: Dewch i gwrdd â Llio…

Dewch i adnabod y cerddorion y tu ôl i’r offerynnau gyda’n sesiynau ‘cyflwyno’! Dewch i gwrdd â Llio Evans, ein soprano wych a fydd yn perfformio fel rhan o Ensemble Cymru yn ystod ein Cyngherddau Coffi ym mis Tachwedd.

Mae’n gerddoriaeth i’n clustiau – cantorion yn ymuno ag Ensemble Cymru ar gyfer ein tymor newydd o Gyngherddau Coffi

Mae Tachwedd yn garreg filltir o bwys i’r sefydliad cerddoriaeth siambr, Ensemble Cymru. Am y tro cyntaf erioed, bydd cantorion yn perfformio fel rhan o’r ensemble ar gyfer ei dymor newydd sbon o Gyngherddau Coffi – cyfres y Lleisiau Clasurol. Bydd y soprano a anwyd ym Môn, Llio Evans, yn ymuno ag Ensemble Cymru ar… Parhau i ddarllen Mae’n gerddoriaeth i’n clustiau – cantorion yn ymuno ag Ensemble Cymru ar gyfer ein tymor newydd o Gyngherddau Coffi

Cyngherddau Coffi 2014-15 – llyfryn newydd y tymor

Croeso i gyfres y ‘Lleisiau Clasurol’ Ensemble Cymru, y tymor cyntaf yn hanes yr Ensemble sy’n canolbwyntio ar y llais. Ymunwch â’r Ensemble wrth ddarganfod cyfoeth o gerddoriaeth siambr newydd, gyffrous gyda chantorion amlwg o Gymru, yn nhymor mwyaf egnïol a gwefreiddiol yr Ensemble hyd yma. Lawrlwytho’r llyfryn Cyngherddau Coffi tymor 2014-15

Cinio cerddorol Ensemble Cymru yn Galeri

Ymunwch â’r grŵp cerddoriaeth glasurol o Fangor, Ensemble Cymru, am ginio pur wahanol yn Galeri y mis Medi yma.  Yn ‘Blas o Ensemble Cymru’ bydd triawd o gerddorion cerddoriaeth siambr amryddawn yn diddanu ciniawyr i raglen awr o gerddoriaeth fyw a fydd yn eich cyfareddu. P’un a ydi cerddoriaeth glasurol yn faes newydd i chi,… Parhau i ddarllen Cinio cerddorol Ensemble Cymru yn Galeri