Pedr a’r Blaidd ar y teledu am y tro cyntaf

Diolch i Ensemble Cymru, daethpwyd â stori hudolus Pedr a’r Blaidd i sgriniau teledu dros wyliau’r Nadolig.  Ar Ddydd Nadolig cafodd plant ac oedolion ledled Cymru gyfle i wylio Pedr a’r Blaidd ar S4C. Perfformiwyd y gerddoriaeth gan gerddorfa 30 offeryn Ensemble Cymru ac adroddwyd y stori gan yr actor o Gymro, Rhys Ifans.

Os oeddech yn rhy brysur yn gorffen eich brechdan dwrci a’ch bod wedi colli’r rhaglen, peidiwch â phoeni!  Mae cyfle arall i’w gwylio ar-lein – dilynwch y linc hwn i weld Pedr a’r Blaidd ar S4C.

Gall ei wylio drachefn ar-lein fod yn ddigon pleserus, ond does dim i guro ei weld yn fyw a bod yn rhan o’r gynulleidfa!   Wel, fe gewch y cyfle hwnnw ym mis Mawrth oherwydd bydd Pedr a’r Blaidd yn mynd ar daith genedlaethol bryd hynny.  Mae tocynnau ar werth yn awr yn yr holl fannau lle cynhelir perfformiadau. Felly, edrychwch ar amserlen y daith i weld pryd mae’r sioe’n dod i dref yn eich ardal chi.