Gareth Glyn yn sgwrsio am eu cerddoriaeth newydd cyn taith Ensemble Cymru

Mae’r cyfansoddwr o Ynys Môn, Gareth Glyn, wedi ysgrifennu darn o gerddoriaeth siambr newydd ar gyfer y prif ensemble cerddoriaeth siambr Cymru, Ensemble Cymru. Perfformir y cyfansoddiad newydd, ‘I’r Pedwar Gwynt’ am y tro cyntaf yn ystod taith Ensemble Cymru ym Mis Mai. Gweler rhestr lawn o ddyddiadau’r daith yma. Dyma Gareth Glyn yn sôn am… Parhau i ddarllen Gareth Glyn yn sgwrsio am eu cerddoriaeth newydd cyn taith Ensemble Cymru

Ensemble Cymru yn mynd ar eu taith fwyaf uchelgeisiol hyd yma o gerddoriaeth siambr

I gloi Tymor eu Pen-blwydd, mae ensemble cerddoriaeth siambr mwyaf blaenllaw Cymru, Ensemble Cymru, yn mynd ar eu taith gyngerdd fwyaf uchelgeisiol hyd yma a fydd yn cynnwys naw o gerddorion rhagorol a cherddoriaeth gan Handel hyd at Debussy, yn ogystal â gwaith comisiwn newydd sbon gan y cyfansoddwr o Gymro, Gareth Glyn.

Rhoi amlygrwydd i gyfansoddwyr byw o Gymru

Y gwanwyn yma mae Ensemble Cymru a Chyfansoddwyr Cymru wedi ymuno i roi amlygrwydd i waith tri chyfansoddwr Cymreig.   Dewiswyd tri chyfansoddwr y perfformir eu gwaith mewn digwyddiadau arbennig cyn cyngherddau yn ystod taith genedlaethol Ensemble Cymru fis Mai eleni.

Cyflwyno ‘Eugene Onegin’ gan Tchaikovsky…

Wrth i ni baratoi i ymuno ag Opera Canolbarth Cymru ar gyfer taith y gwanwyn, gofynasom i’n Cyfarwyddwr Cerdd OCC, Jonathan Lyness rannu, ei farn ar Eugene Onegin Tchaikovsky fel darn, a’i brofiad o’r gwaith fel arweinydd. Cyflwyna John opera “hudol, synhwyrus, hardd a hypnotig” Tchaikovsky yn ei eiriau ei hun isod.

Ensemble Cymru yn dathlu ei ben-blwydd yn 15 oed gyda thaith genedlaethol 11 diwrnod

Mae prif ensemble cerddoriaeth siambr Cymru, Ensemble Cymru, yn dathlu ei ben-blwydd yn 15 gyda thaith genedlaethol am 11 diwrnod ar draws Cymru ym mis Tachwedd gyda chyngherddau estynedig arbennig yn dathlu perlau cudd o repertoire cerddoriaeth siambr.

Manteisiwch ar ein Cynnig Cynnar – tocynnau ar werth yn awr

Mae’r tocynnau Cynnig Cynnar yn gwerthu’n gyflym, prynwch eich tocynnau’n awr cyn ei bod yn rhy hwyr! Mae’n hawdd iawn manteisio ar y cynnig hwn a chael gwerth eich arian. Cysylltwch â’r swyddfa docynnau yn un o’r lleoliadau sydd wedi eu rhestru isod, cyn 13 Hydref 2017, a phrynu tocyn ar gyfer cyngerdd nesaf Ensemble… Parhau i ddarllen Manteisiwch ar ein Cynnig Cynnar – tocynnau ar werth yn awr

Cyhoeddwyd
Wedi'i gategoreiddio fel Newyddion