Bydd tymor 2017-18 sydd o’n blaenau’n un arbennig i Ensemble Cymru am y byddwn yn dathlu ein pen-blwydd yn 15 mlwydd oed. Caiff rhaglen y tymor newydd ei lansio ar ddiwedd yr haf, felly os nad ydych eisoes ar ein rhestr ohebu ond yr hoffech dderbyn un, cofrestrwch isod os gwelwch yn dda.
Ein newyddion
Codi Arian / Creu Cerddoriaeth / Cyd-greu a Chydweithio / Cymuned / Datblygu Dawn / Newyddion / Ysbrydoli Plant /

Bob mis, byddwn yn rhannu blog gan ein cymuned o gerddorion, cefnogwyr, ac aelodau’r gynulleidfa. Gobeithiwn y gwnewch chi fwynhau darllen ein straeon am greu cerddoriaeth yng Nghymru, ac wrth gwrs, pe hoffech chi ysgrifennu blog i’r dudalen hon, byddai hynny’n WYCH. Am fwy o fanylion a gwybodaeth am ble i anfon eich blog…
Big Give – y wybodaeth ddiweddaraf
Diolch yn fawr i bawb a gefnogodd ein hymgyrch ‘Big Give’. Dyma sut mae eich haelioni wedi helpu gwaith Ensemble Cymru hyd yn hyn.
Tymor 2016-17 – Y Rhannau Gorau
Am dymor fu 2016-17! Diolch i chi, ein cynulleidfaoedd, ffrindiau a phartneriaid gwych am ein cefnogi ni a’n cynorthwyo i gadw cerddoriaeth siambr yn fyw ar draws Cymru. Gobeithio i chi fwynhau’r arlwy gymaint ag y gwnaethom ni. Cymerwch olwg isod ar uchafbwyntiau’r ychydig fisoedd diwethaf trwy gyfrwng y clipiau fideo ac oriel luniau…
Lansio blwyddyn Pen-Blwydd 15eg mlynedd Ensemble Cymru yng Nghaerdydd
I lansio blwyddyn penblwydd arbennig iawn i Ensemble Cymru, fe wnaeth y pencampwyr cerddoriaeth siambr ddathlu gyda digwyddiad yn adeilad hanesyddol y Pierhead, ym Mae Caerdydd, yr wythnos ddiwethaf. Cymerwch olwg ar yr uchafbwyntiau o’n dathliad yng Nghaerdydd, gan gynnwys oriel lluniau a fideo.
Delynores, Anne Denholm yn sgwrsio am gerddoriaeth newydd ac Ensemble Cymru cyn taith mis Mai
Rydym yn sgwrsio â Phrif Delynores Ensemble Cymru, a’r Delynores Frenhinol bresennol, Anne Denholm, yn ystod y paratoadau ar gyfer taith mis Mai, i ddarganfod sut mae gweithio gydag Ensemble Cymru yn helpu i hyrwyddo rhywbeth sy’n bwysig iawn iddi.
Cyngerdd olaf y tymor Ensemble Cymru yn dathlu cerddoriaeth siambr o Gymru a thu hwnt
Bydd Ensemble Cymru yn cloi eu cyfres cyngherddau 2016-17 gyda’u taith drwy Gymru ym mis Mai. Gan arddangos y gerddoriaeth siambr orau o Gymru a ledled y byd, gan gynnwys cerddoriaeth gan y gyfansoddwraig o Gymru, Hilary Tann, a phedwarawd ffliwt enwog Mozart, ni all unrhyw un sy’n caru cerddoriaeth fethu’r daith hon!
Cyfle i egin gerddorion Aberystwyth ddisgleirio
Mae’r grŵp cerddoriaeth siambr, Ensemble Cymru, ynghyd â Gwasanaeth Cerddoriaeth Ceredigion, wedi lansio ‘Academi Siambr’ newydd yng Nghanolfan y Celfyddydau Aberystwyth lle bydd cerddorion ifanc lleol yn cael cyfle i gymryd rhan mewn dosbarthiadau meistri gan rai o berfformwyr cerddoriaeth glasurol amlycaf y wlad.
Cenhadaeth fasnachu Ensemble Cymru i China
Blog gan Peryn Clement-Evans, Cyfarwyddwr Artistig Ensemble Cymru. “Ar ôl dwy flynedd o siarad am sut gall Ensemble Cymru weithio gyda cherddorion a chyfansoddwyr o Tsieina, mae’n falch gennyf ddweud ein bod yn awr yn cymryd ein cam pendant cyntaf tuag at wireddu hyn…
Y Dynion tu ôl y Gerddoriaeth – Blog Emma
Gyda diolch i Emma Lancastle am y blog canlynol. Yn ystod eu Taith Chwefror, mae Ensemble Cymru yn cyflwyno rhaglen amrywiol o gerddoriaeth siambr i Glarinét, Ffidl a Phiano. Mae rhai o’r darnau gorau o gerddoriaeth glasurol wedi cael eu creu yn ystod cyfnodau o drallod a chaledi, ac mae’r rhaglen a gyflwynir gan y… Parhau i ddarllen Y Dynion tu ôl y Gerddoriaeth – Blog Emma
