Adolygiadau Wythawd Schubert a Metcalf

Brand Taith Schubert

Mi gawsom ni adolygiadau rhagorol gan bawb ddaeth i’n clywed yn perfformio wythawd gan Schubert ac wythawd newydd gan John Metcalf o gwmpas Cymru. Os gawsoch chi gyfle i ddod i’n gweld, gobeithio i chi fwynhau!

Priodas Figaro Mozart.. ar ein trothwy

Bydd Ensemble Cymru yn ymuno â chwmni Opera Canolbarth Cymru yn y gwanwyn mewn cynhyrchiad newydd o gampwaith Mozart, Priodas Figaro. Gan ddefnyddio cyfieithiad Saesneg Amanda Holden, bydd helyntion Figaro a’i ddarpar wraig Susanna wrth ymdrechu i dwyllo’u meistri, yn siwr o greu llond bol o chwerthin!  Mae’r cynhyrchiad wedi ei deilwra’n arbennig i’r gynulleidfa… Parhau i ddarllen Priodas Figaro Mozart.. ar ein trothwy

Dathlu Alawon

A hithau’n Ddiwrnod Cenedlaethol Awstria ddydd Sadwrn diwethaf , braf yw cyhoeddi y bydd teyrnged Cymreig i’r cyfansoddwr Awstraidd, Franz Schubert i’w glywed yn rhai o brif neuaddau cyngerdd Cymru yn ystod mis Tachwedd. Bydd grŵp cerddoriaeth siambr mwyaf blaenllaw Cymru, Ensemble Cymru yn perfformio gwaith gan un o gyfansoddwyr mwyaf y byd, sef Wythawd… Parhau i ddarllen Dathlu Alawon

Cyngerdd Diolch (Gloddaeth, Llandudno)

Dymunwn ddiolch i bawb ddaeth i’r Cyngerdd Diolch yn Eglwys Gloddaeth, Llandudno. Roedd hi’n braf gweld cymaint yno, ac mae’n amlwg dros sgwrs a phaned a bara brith fod nifer fawr iawn ohonoch yn awyddus i Ensemble Cymru ddychwelyd! Gwyliwch y gofod felly!! Bu’r rhaglen Heno wrthi’n ffilmio’r digwyddiad hefyd – dyma linc i’r rhaglen:… Parhau i ddarllen Cyngerdd Diolch (Gloddaeth, Llandudno)

Cyhoeddwyd
Wedi'i gategoreiddio fel Newyddion

NODAU O DDIOLCH!

Bydd Ensemble Cymru yn chwarae nodau o ddiolch i bobl Cymru a thu hwnt, mewn cyngerdd arbennig yn Eglwys Gloddaeth Llandudno, am 10.30 ar fore Iau, Mai 23

Ensemble Cymru yn dychwelyd i Neuadd Dewi Sant gyda champwaith Schubert

Mae grŵp cerddoriaeth siambr blaenllaw Cymru, Ensemble Cymru, yn dychwelyd i brifddinas Cymru fis Tachwedd i gynnal cyngerdd arbennig yn Neuadd Dewi Sant a fydd yn cynnwys y campwaith na pherfformir yn aml, yr Octet gan Schubert. Byddant hefyd yn perfformio comisiwn newydd sbon gan y cyfansoddwr o Gymru, John Metcalf.

Helpwch Ensemble Cymru gyrraedd nod y ‘Big Give’

Mae’r Her Nadolig ‘Big Give’ 2018 wedi CYCHWYN Dros yr 7 diwrnod nesaf bydd pob rhodd tuag at Ensemble Cymru trwy’r ‘Big Give’ yn cael ei ddyblu gan arian cyfatebol. Fel sefydliad bach, mae pob rhodd, beth bynnag ei faint, yn cael effaith enfawr ar ein gwaith. Ar ran pawb yn Ensemble Cymru, diolch yn… Parhau i ddarllen Helpwch Ensemble Cymru gyrraedd nod y ‘Big Give’

Digwyddiad yng Ngogledd Cymru i nodi Diwrnod Cerddoriaeth Siambr Cenedlaethol cyntaf Cymru

Bydd Ensemble Cymru a Gŵyl Gerdd Ryngwladol Gogledd Cymru yn dod ynghyd i ddathlu Diwrnod Cerddoriaeth Siambr Cenedlaethol cyntaf Cymru ddydd Gwener 28 Medi 2018.  Bydd y digwyddiad rhad ac am ddim hwn yn rhoi amlygrwydd i’r cyfoeth o gerddoriaeth siambr sydd yn y rhanbarth, gyda pherfformiadau byw gan Ensemble Cymru, Opera Cenedlaethol Cymru, Clwb… Parhau i ddarllen Digwyddiad yng Ngogledd Cymru i nodi Diwrnod Cerddoriaeth Siambr Cenedlaethol cyntaf Cymru