Mae prif ensemble cerddoriaeth siambr Cymru, Ensemble Cymru, yn dathlu ei ben-blwydd yn 15 gyda thaith genedlaethol am 11 diwrnod ar draws Cymru ym mis Tachwedd gyda chyngherddau estynedig arbennig yn dathlu perlau cudd o repertoire cerddoriaeth siambr.
Awdur: KB
Manteisiwch ar ein Cynnig Cynnar – tocynnau ar werth yn awr
Mae’r tocynnau Cynnig Cynnar yn gwerthu’n gyflym, prynwch eich tocynnau’n awr cyn ei bod yn rhy hwyr! Mae’n hawdd iawn manteisio ar y cynnig hwn a chael gwerth eich arian. Cysylltwch â’r swyddfa docynnau yn un o’r lleoliadau sydd wedi eu rhestru isod, cyn 13 Hydref 2017, a phrynu tocyn ar gyfer cyngerdd nesaf Ensemble… Continue reading Manteisiwch ar ein Cynnig Cynnar – tocynnau ar werth yn awr
Mae Llyfryn y Tymor Newydd Wedi Cyrraedd!
Mae’n bleser mawr gennym gyhoeddi bod llyfryn tymor newydd Ensemble Cymru wedi cyrraedd!
Lansio Tymor Newydd – Byddwch y Cyntaf i Glywed!
Bydd tymor 2017-18 sydd o’n blaenau’n un arbennig i Ensemble Cymru am y byddwn yn dathlu ein pen-blwydd yn 15 mlwydd oed. Caiff rhaglen y tymor newydd ei lansio ar ddiwedd yr haf, felly os nad ydych eisoes ar ein rhestr ohebu ond yr hoffech dderbyn un, cofrestrwch isod os gwelwch yn dda.
Big Give – y wybodaeth ddiweddaraf
Diolch yn fawr i bawb a gefnogodd ein hymgyrch ‘Big Give’. Dyma sut mae eich haelioni wedi helpu gwaith Ensemble Cymru hyd yn hyn.
Tymor 2016-17 – Y Rhannau Gorau
Am dymor fu 2016-17! Diolch i chi, ein cynulleidfaoedd, ffrindiau a phartneriaid gwych am ein cefnogi ni a’n cynorthwyo i gadw cerddoriaeth siambr yn fyw ar draws Cymru. Gobeithio i chi fwynhau’r arlwy gymaint ag y gwnaethom ni. Cymerwch olwg isod ar uchafbwyntiau’r ychydig fisoedd diwethaf trwy gyfrwng y clipiau fideo ac oriel luniau…
Lansio blwyddyn Pen-Blwydd 15eg mlynedd Ensemble Cymru yng Nghaerdydd
I lansio blwyddyn penblwydd arbennig iawn i Ensemble Cymru, fe wnaeth y pencampwyr cerddoriaeth siambr ddathlu gyda digwyddiad yn adeilad hanesyddol y Pierhead, ym Mae Caerdydd, yr wythnos ddiwethaf. Cymerwch olwg ar yr uchafbwyntiau o’n dathliad yng Nghaerdydd, gan gynnwys oriel lluniau a fideo.
Delynores, Anne Denholm yn sgwrsio am gerddoriaeth newydd ac Ensemble Cymru cyn taith mis Mai
Rydym yn sgwrsio â Phrif Delynores Ensemble Cymru, a’r Delynores Frenhinol bresennol, Anne Denholm, yn ystod y paratoadau ar gyfer taith mis Mai, i ddarganfod sut mae gweithio gydag Ensemble Cymru yn helpu i hyrwyddo rhywbeth sy’n bwysig iawn iddi.
Cyngerdd olaf y tymor Ensemble Cymru yn dathlu cerddoriaeth siambr o Gymru a thu hwnt
Bydd Ensemble Cymru yn cloi eu cyfres cyngherddau 2016-17 gyda’u taith drwy Gymru ym mis Mai. Gan arddangos y gerddoriaeth siambr orau o Gymru a ledled y byd, gan gynnwys cerddoriaeth gan y gyfansoddwraig o Gymru, Hilary Tann, a phedwarawd ffliwt enwog Mozart, ni all unrhyw un sy’n caru cerddoriaeth fethu’r daith hon!