Dewch i adnabod y cerddorion y tu ôl i’r offerynnau gyda’n sesiynau ‘cyflwyno’. Yn gyntaf y mae’r ychwanegiad newydd at deulu Ensemble Cymru, Katka Marešová.
Ganed a magwyd Katka yng Ngweriniaeth Tsiec, a chyrhaeddodd Brydain fis Medi’r llynedd i dreulio blwyddyn yn astudio ym, Mhrifysgol Bangor. Ac mae’n ymddangos bod tirwedd garw, fynyddig gogledd Cymru yn rhannu rhai nodweddion tebyg â chartref Katka, fel yr eglura… Darllenwch fwy Y sesiynau ‘cyflwyno’: Dewch i gwrdd â Katka…
“Gan ddeffro i anferth o storm fellt a tharanau fore Sadwrn, roeddwn ychydig yn bryderus y gallai’r tywydd atal ein cynulleidfaoedd rhag dod draw – roedd hi’n swnio’n eithaf dychrynllyd y tu allan! Fodd bynnag, nid oedd angen imi boeni wedi’r cwbl, am i nifer o rieni a phlant cynhyrfus lifo i mewn i Neuadd Dwyfor, Pwllheli, ychydig cyn 10am, ar gyfer bore Sadwrn o hwyl gerddorol.
Dan arweiniad Sioned Roberts a chyda chymorth cerddorol gan Katerina Maresova, roedd y gweithdy’n anelu at gyflwyno plant ifainc i ryfeddod cerddoriaeth, a hynny trwy gân, gwrando a chwarae. Meddai Katerina:
Mae Ensemble Cymru wrthi’n paratoi i gadw sŵn yn Galeri yng Nghaernarfon yr haf hwn, gyda chyfres o berfformiadau digymell. Lansiodd y grŵp cerddoriaeth siambr o Fangor ei perfformiad cyntaf ar Galeri nos Sul, pan wnaeth perfformiad byrfyfyr gan brif offerynnwr taro’r Ensemble, Dewi Ellis-Jones o Gaernarfon, i’r bar sefyll yn stond.
Y perfformiad hwn yw’r cyntaf mewn cyfres o gyngherddau chwim am ddim gan Ensemble Cymru yn Galeri yn ystod yr haf, a fydd yn cyrraedd ei hanterth ar 29 Medi am 12.30pm, gyda chyngerdd awr ginio â mynediad trwy docyn. Darllenwch fwy Ensemble Cymru i gadw sŵn yn Galeri yr haf hwn
Fel arwr dewr ein stori, dechreuai’r chwedl gyda Pedr…
Mae’r bachgen ifanc yn byw gyda’i daid mewn llannerch yn y goedwig, ond un diwrnod penderfyna Pedr adael diogelwch y llannerch a chrwydro i ganol y goedwig. Gan adael y giât ar agor y tu ôl iddo, mae un o’r hwyaid yn dilyn Pedr allan.
“Mae Pedr yn rhybuddio’r aderyn bach a neidia i mewn i goeden”
Mae’r hwyaden yn nofio allan i mewn i lyn, ond yn mynd i ffrae gydag aderyn bach cyn bo hir. Fodd bynnag, daw eu ffraeo i ben pan ddaw cath Pedr heibio. Mae Pedr yn rhybuddio’r aderyn bach a neidia i mewn i goeden cyn i’r gath gael cyfle i gael ei chrafangau ynddo!
“Mae taid Pedr yn sylwi bod y bachgen wedi sleifio allan”
Yn fuan, mae taid Pedr yn sylwi bod y bachgen wedi sleifio allan ac mae’n rhuthro i’r goedwig i’w gael yn ôl, gan ddwrdio Pedr am fynd allan ar ei ben ei hun, “beth petai blaidd wedi bod allan yno?” gofynna i’r bachgen. Darllenwch fwy Y Stori o Pedr a’r Blaidd
Bydd Ensemble Cymru yn hedfan y faner dros Gymru yn nigwyddiad ClassicalNEXT sydd i’w gynnal yn Fienna, Awstria, fis Mai hwn. Bu mwy na 1,000 o gwmnïau cerddoriaeth, unigolion ac arddangoswyr o fwy na 140 o wahanol wledydd yn bresennol yn y digwyddiad a gynhaliwyd y llynedd, a disgwylir i fwy fyth fod yn bresennol yn sioe 2014.
Rydym wedi creu tri phecyn gwahanol i ddangos y gwahanol wasanaethau y gall Ensemble Cymru eu cynnig. Mae trosolwg ar bob pecyn wedi’i amlinellu isod, ac os hoffech gofrestru eich diddordeb a gwybod mwy am y posibilrwydd o weithio gydag Ensemble Cymru, llenwch y ffurflen. Darllenwch fwy Ensemble Cymru yn teithio i Fienna ar gyfer ClassicalNEXT
Mae wedi bod yn wythnos nodedig ar gyfer dwy o sêr ifainc Ensemble Cymru, sef Collette Astley-Jones a Llinos Elin Owen, wrth iddynt ddathlu cael swyddi newydd, cyffrous!
Stori Llinos
Cafodd Llinos ei swydd gyntaf gydag Ensemble Cymru, Ensemble Preswyl ym Mhrifysgol Bangor a Venue Cymru, fel baswnydd proffesiynol fwy na deng mlynedd yn ôl. Yn ystod y cyfnod hwn, bu Llinos yn cymryd rhan yn gyson yng nghyngherddau’r Ensemble, gan berfformio’n fwyaf diweddar ar daith genedlaethol Pedr a’r Blaidd.
Yn awr, mae gan Llinos swydd newydd i’w hychwanegu at ei CV cynyddol, am ei bod newydd gael ei phenodi’n is-brif faswnydd gyda Sinfonia’r Bale Brenhinol, sef cerddorfa Bale Brenhinol Birmingham. Darllenwch fwy Llwyddiant dwbl i ddoniau Ensemble Cymru
Mae gwledd arbennig yn disgwyl cerddgarwyr Bangor, wrth i Pontio baratoi i gynnal cyngerdd unigryw ar 3 Ebrill, gyda cherddorion o Ensemble Cymru a sêr gwadd o Gorws Cenedlaethol Cymreig y BBC – yn cynnwys y soprano o Fôn, Llio Evans.
Fel rhan o gyfres Pontio Cerddoriaeth ym Mangor, bydd Pedwarawd Mavron a chantorion o Gorws Cenedlaethol Cymreig y BBC yn ymuno ag ensemble preswyl Prifysgol Bangor a Venue Cymru, Ensemble Cymru, ar gyfer noson fythgofiadwy o gerdd a chân.
Bydd rhaglen y noson yn llwyfannu cerddoriaeth o’r 18fed ganrif trwodd hyd at yr 20fed ganrif, yn cynnwys Cantata Coffi gan Bach, Wythawd gan Mendelssohn a Messe Modale gan Jehan Alain.
Meddai Cyfarwyddwr Artistig Ensemble Cymru, Peryn Clement-Evans:
“Rydym yn awyddus i gynnwys cantorion yng ngweithgareddau’r Ensemble ers i Ensemble Cymru gychwyn yn 2001. Gyda chymorth aelodau rhyfeddol Corws Cenedlaethol Cymreig y a’u corws-feistr Adrian Partington, rydym wedi cyrraedd carreg filltir gyntaf o bwys wrth sefydlu consort lleisiol o fewn yr Ensemble. Mae’r syniad o gyflwyno amrywiaeth ehangach fyth o gerddoriaeth i gynulleidfaoedd, cymunedau ac ysgolion ar draws Cymru yn arbennig o gyffrous. Wrth wneud hyn, rydym yn edrych ymlaen at greu mwy o gyfleoedd gwaith i gantorion penigamp yng Nghymru sy’n awyddus i ymuno â ni wrth inni rannu ein hangerdd tuag at gerddoriaeth siambr.”
Bydd talent o’r ardal yn ymuno â cherddorion Ensemble Cymru, wrth i’r soprano Llio Evans, sy’n hanu o Lanfairpwll, ddychwelyd i Ogledd Cymru gydag aelodau eraill Corws Cenedlaethol Cymreig y BBC i berfformio yn y gyngerdd. Meddai Llio, “Mae dod adref i berfformio bob amser yn gymaint o bleser, gan mai cynulleidfaoedd Gogledd Cymru yw’r gorau, wrth reswm! Mae cael cyfle i weithio mewn cysylltiad agos â cherddorion Ensemble Cymru wedi bod yn uchafbwynt gwirioneddol imi, ac rwy wedi cynhyrfu’n lân wrth ragweld ymateb y gynulleidfa i’n cydweithrediad.”
Gwybodaeth am y Gyngerdd
Cerddoriaeth ym Mangor: Ensemble Cymru gydag aelodau Pedwarawd Mavron ac aelodau o Gorws Cenedlaethol Cymreig y BBC
Nos Iau 3 Ebrill 2014 am 8pm
Neuadd Powis, Prifysgol Bangor
Hyd: 2 awr (un egwyl)
Tocynnau: £12 | £9 gostyngiadau |£3 myfyrwyr
£25 tocyn teulu
Gellir prynu tocynnau dros y ffôn 01248 382828, arlein drwy Ganolfan Mileniwm Cymru. neu yn siop Pontio ar Stryd Fawr Bangor.
We start with the exciting news that on 3 April, Ensemble Cymru will embark on a brand new venture which will see the ensemble performing with singers for the very first time!As part of Pontio’s Music At Bangor series, Ensemble Cymru will be joined by the Mavron Quartet and singers from the BBC National Chorus of Wales, including the Anglesey-born soprano, Llio Evans (pictured right) for an unforgettable evening of music and song.
“Involving singers in the Ensemble has been something we’ve wanted to do ever since Ensemble Cymru started in 2001. With the help of members of the wonderful BBC National Chorus of Wales and its chorus master Adrian Partington, we have reached an important first milestone in establishing a vocal consort within the Ensemble.”
April will see the Ensemble perform its final Coffee Concerts of the season – and it’s not to be missed. The ‘Zodiac’ concert features music for flute, viola, and harp by Prokofiev, Mathias, Debussy, Bax and Devienne.
March has been a tremendous month for Ensemble Cymru as we took our ‘Pedr a’r Blaidd’ (Peter and the Wolf) show on the road, playing to almost two thousand people across Wales at venues including Llandudno, Pwllheli, Cardigan and Cardiff.
While the show may be over, if you’d like to re-live the best bits, the CD recording of ‘Pedr a’r Blaidd’ with narration by Rhys Ifans, is available to purchase from our website for £8 (plus p&p).
Soprano Cymreig Llio Evans
Rydym yn dechrau gyda’r newyddion cyffrous bod Ensemble Cymru yn dechrau ar fenter newydd sbon ar 3 Ebrill ac yn perfformio gyda chantorion am y tro cyntaf erioed.Fel rhan o’r gyfres a drefnir gan Pontio, Cerddoriaeth ym Mangor, bydd y Mavron Quartet a chantorion o Gorws Cenedlaethol Cymru’r BBC, gan gynnwys y soprano Llio Evans (llun dde), sy’n enedigol o Ynys Môn, yn ymuno ag Ensemble Cymru am noson fythgofiadwy o gerddoriaeth a chân.Dywedodd Cyfarwyddwr Artistig Ensemble Cymru, Peryn Clement-Evans:“Mae cydweithio gyda chantorion yn yr Ensemble yn rhywbeth rydan ni wedi bod eisiau ei wneud ers ffurfio Ensemble Cymru yn 2001. Gyda chymorth aelodau o Gorws Cenedlaethol Cymru’r BBC, a’r côr-feistr Adrian Partington, rydym wedi cyrraedd carreg filltir gyntaf bwysig o ran sefydlu consort lleisiol yn yr Ensemble.”
Ym mis Ebrill bydd yr Ensemble yn perfformio Cyngherddau Coffi olaf y tymor – peidiwch â cholli’r cyfle i’w gweld. Mae’r cyngerdd ‘Zodiac’ yn cynnwys cerddoriaeth i’r ffliwt, fiola a thelyn gan Prokofiev, Mathias, Debussy, Bax a Devienne.
Ymunwch â ni am Gyngerdd Coffi mewn lleoliad sy’n agos atoch chi! Byddwn yn perfformio yng Nghilcain, Pwllheli, Llandudno a Chaergybi – gwelwch y manylion llawn a ragor o wybodaeth am ddigwyddiadau i ddod.
CD ar werth
Roedd mis Mawrth yn fis rhagorol i Ensemble Cymru wrth i ni fynd â ‘Pedr a’r Blaidd’ ar daith, gan chwarae i ymron i ddwy fil o bobl ar draws Cymru mewn lleoliadau’n cynnwys Llandudno, Pwllheli, Aberteifi a Chaerdydd.
Er bod y sioe drosodd, os hoffech ail-fyw’r rhannau gorau, mae’r recordiad CD o ‘Pedr a’r Blaidd’, gyda Rhys Ifans yn adrodd, ar gael i’w brynu o’n gwefan am £8 (a chost postio).
So it turns out CD launches and national tours are like buses, you wait ages for one then two come along at the same time!
I am of course talking about the very exciting news that Ensemble Cymru’s national tour of ‘Pedr a’r Blaidd’ sets off on Monday and the CD of the same name will launch on 1 March 2014.
First play on Radio Cymru
For any Radio Cymru listeners, you may have heard the CD get its first public broadcast this week when John Hardy played an exclusive clip on his show and spoke to Peryn Clement-Evans about the tour. Listen again now, skip to 1:44 into the show.
Ensemble Cymru on tour
If you’re coming along to see the show on tour at Llandudno, Pwllheli, Cardigan or Cardiff then you’ll be able to get your hands on a copy after the show – there’s an exclusive tour price for the CD so you’ll pay just £6. If you can’t make it to the shows next week, then you can always buy your copy online at www.pedr.org for £8.
Welsh learners welcome!
Download an English version of the ‘Pedr a’r Blaidd’ script and a vocabulary list from www.pedr.org
Get your tickets
Tickets are still available for the tour dates, see details below, so hurry along and buy yours today!
CARDIFF – St David’s Hall, 7 March 1pm and 5:30pmMae lansio CDs a theithiau cenedlaethol fel bysus, byddwch yn aros yn hir am un ac yna bydd dau yn cyrraedd ar yr un pryd!
Rwy’n siarad wrth gwrs am y newyddion cyffrous bod taith genedlaethol Ensemble Cymru o ‘Pedr a’r Blaidd’ yn dechrau ddydd Llun a bod y CD o’r un enw yn cael ei lansio ar 1 Mawrth 2014.
Ei chwarae gyntaf ar Radio Cymru
I chi wrandawyr Radio Cymru, mae’n bosib eich bod wedi clywed y darllediad cyntaf o’r CD yr wythnos hon pan chwaraeodd John Hardy ddarn ar ei raglen a chael sgwrs gyda Peryn Clement-Evans am y daith. Gwrandwch eto (o 1:44 in mewsn i’r sioe)
Ensemble Cymru ar daith
Os byddwch yn mynd i weld y sioe yn Llandudno, Pwllheli, Aberteifi neu Gaerdydd yna byddwch yn gallu cael gafael ar gopi ar ôl y sioe. Os nad ydych yn gallu mynd i weld un o’r sioeau wythnos nesaf, gallwch brynu eich copi ar-lein ar www.pedr.org am £8.
Croeso i ddysgwyr Cymraeg!
Gallwch lawrlwytho fersiwn Saesneg o sgript Pedr a’r Blaidd a rhestr eirfa o www.pedr.org
Prynwch eich tocynnau!
Mae yna docynnau ar ôl ar gyfer sioeau’r daith, gwelwch y manylion isod, felly brysiwch i brynu eich tocynnau chi heddiw!
The countdown is well and truly on with less than three weeks to go until the curtain goes up on ‘Pedr a’r Blaidd’ (Peter and the Wolf) the national tour.
To whet your appetite ahead of the live show, here’s an exclusive video clip of Ensemble Cymru’s ‘Pedr a’r Blaidd’ courtesy of Cwmni Fflic.
See the first Welsh language production of this children’s classic, Pedr a’r Blaidd (Peter and the Wolf) featuring the voice of Rhys Ifans, live music by the Ensemble Cymru orchestra, on-screen images by Marc Vyvyan-Jones and a very special introduction by S4C’s Dona Direidi.
CARDIFF – St David’s Hall, 7 March 1pm and 5:30pmRydym ni’n cyfri’r dyddiau erbyn hyn gyda llai na thair wythnos i fynd nes i daith genedlaethol Pedr a’r Blaidd gychwyn.
I gael blas o’r hyn sydd i ddod cyn y sioe fyw, dyma glip ymlaen llaw o fideo ‘Pedr a’r Blaidd’ Ensemble Cymru, drwy gwrteisi Cwmni Fflic.
Dewch i weld cynhyrchiad Cymraeg cyntaf o’r clasur hwn i blant, Pedr a’r Blaidd, yn cynnwys llais Rhys Ifans, cerddoriaeth fyw gan gerddorfa Ensemble Cymru, delweddau ar sgrin gan Marc Vyvyan-Jones a chyflwyniad arbennig iawn gan Dona Direidi.