Am dymor fu 2016-17! Diolch i chi, ein cynulleidfaoedd, ffrindiau a phartneriaid gwych am ein cefnogi ni a’n cynorthwyo i gadw cerddoriaeth siambr yn fyw ar draws Cymru. Gobeithio i chi fwynhau’r arlwy gymaint ag y gwnaethom ni. Cymerwch olwg isod ar uchafbwyntiau’r ychydig fisoedd diwethaf trwy gyfrwng y clipiau fideo ac oriel luniau…
Categori: Newyddion
Lansio blwyddyn Pen-Blwydd 15eg mlynedd Ensemble Cymru yng Nghaerdydd
I lansio blwyddyn penblwydd arbennig iawn i Ensemble Cymru, fe wnaeth y pencampwyr cerddoriaeth siambr ddathlu gyda digwyddiad yn adeilad hanesyddol y Pierhead, ym Mae Caerdydd, yr wythnos ddiwethaf. Cymerwch olwg ar yr uchafbwyntiau o’n dathliad yng Nghaerdydd, gan gynnwys oriel lluniau a fideo.
Cenhadaeth fasnachu Ensemble Cymru i China
Blog gan Peryn Clement-Evans, Cyfarwyddwr Artistig Ensemble Cymru. “Ar ôl dwy flynedd o siarad am sut gall Ensemble Cymru weithio gyda cherddorion a chyfansoddwyr o Tsieina, mae’n falch gennyf ddweud ein bod yn awr yn cymryd ein cam pendant cyntaf tuag at wireddu hyn…
Y Dynion tu ôl y Gerddoriaeth – Blog Emma
Gyda diolch i Emma Lancastle am y blog canlynol. Yn ystod eu Taith Chwefror, mae Ensemble Cymru yn cyflwyno rhaglen amrywiol o gerddoriaeth siambr i Glarinét, Ffidl a Phiano. Mae rhai o’r darnau gorau o gerddoriaeth glasurol wedi cael eu creu yn ystod cyfnodau o drallod a chaledi, ac mae’r rhaglen a gyflwynir gan y… Parhau i ddarllen Y Dynion tu ôl y Gerddoriaeth – Blog Emma
Triawd gwych Ensemble Cymru yn mynd ar daith ym mis Chwefror
Mae Ensemble Cymru, pencerddorion cerddoriaeth siambr, yn mynd ar eu taith gyntaf yn 2017 – a byddant yn cynnal cyngherddau ar draws Cymru. Y cerddorion arobryn yn cynnwys y feiolinydd Florence Cooke, y pianydd Richard Ormrod a chyfarwyddwr artistig a phrif glarinetydd Ensemble Cymru, Peryn Clement-Evans, fydd y triawd ar gyfer y daith ym mis… Parhau i ddarllen Triawd gwych Ensemble Cymru yn mynd ar daith ym mis Chwefror
Telynores frenhinol yn ymuno ag Ensemble Cymru i lansio tymor newydd yr hydref hwn
Bydd Ensemble Cymru, pencampwyr cerddoriaeth siambr, yn croesawu gwestai arbennig iawn fel rhan o lansio eu Cyfres Gyngherddau newydd sbon am 2016/17. Bydd Anne Denholm, telynores swyddogol Tywysog Cymru, yn perfformio fel rhan o’r pedwarawd yn y cyntaf o gyngherddau Ensemble Cymru a gynhelir mewn mannau ar draws Cymru fis Hydref a Thachwedd eleni. Gan… Parhau i ddarllen Telynores frenhinol yn ymuno ag Ensemble Cymru i lansio tymor newydd yr hydref hwn
Rydym eisiau dod i adnabod chi…
Mae Cyfarwyddwr Artistig Peryn Clement-Evans yn eich gwahodd am baned a sgwrs. Mae Tymor 2016/2017 ar fin dechrau ac mae Ensemble Cymru am ddod i nabod chi, ein cefnogwyr, yn gwell. Ble gwell i ddechrau na gyda phaned a sgwrs? Dros y chwe mis nesaf, byddwn yn trefnu diwrnodau paned mewn lleoliadau ledled Cymru. Ein nod, yw… Parhau i ddarllen Rydym eisiau dod i adnabod chi…
Y delyn yn cloi cyngerdd olaf Ensemble Cymru
Bydd Ensemble Cymru yn cloi eu cyfres Cyngerdd Coffi gyda’r delyn yn cael lle canolog mewn rhaglen o gerddoriaeth siambr drawiadol a berfformir gan ensemble o saith, yn cynnwys pedwarawd llinynnol a thelynores wobrwyog o’r Swistir. Darllenwch y stori llawn.
Y delyn yn cloi cyngerdd olaf Ensemble Cymru
Bydd Ensemble Cymru yn cloi eu cyfres Cyngerdd Coffi gyda’r delyn yn cael lle canolog mewn rhaglen o gerddoriaeth siambr drawiadol a berfformir gan ensemble o saith, yn cynnwys pedwarawd llinynnol a thelynores wobrwyog o’r Swistir. Bydd taith y grŵp cerddoriaeth siambr o ogledd Cymru ym mis Mai yn dwyn ynghyd gerddoriaeth gan gyfansoddwyr o… Parhau i ddarllen Y delyn yn cloi cyngerdd olaf Ensemble Cymru
