Dewch i adnabod y cerddorion y tu ôl i’r offerynnau gyda’n sesiynau ‘cyflwyno’! Dewch i gwrdd â Llio Evans, ein soprano wych a fydd yn perfformio fel rhan o Ensemble Cymru yn ystod ein Cyngherddau Coffi ym mis Tachwedd.
Ein newyddion
Codi Arian / Creu Cerddoriaeth / Cyd-greu a Chydweithio / Cymuned / Datblygu Dawn / Newyddion / Ysbrydoli Plant /

Bob mis, byddwn yn rhannu blog gan ein cymuned o gerddorion, cefnogwyr, ac aelodau’r gynulleidfa. Gobeithiwn y gwnewch chi fwynhau darllen ein straeon am greu cerddoriaeth yng Nghymru, ac wrth gwrs, pe hoffech chi ysgrifennu blog i’r dudalen hon, byddai hynny’n WYCH. Am fwy o fanylion a gwybodaeth am ble i anfon eich blog…
Derbyn i’r Big Give!
Mae Ensemble Cymru yn hynod o falch iddo gael ei dderbyn i fod yn rhan o Her Nadolig y Big Give eleni! Mae’r Big Give yn gynllun blynyddol ar gyfer cyllid cyfatebol a gynhelir bob Rhagfyr, gan roi llwyfan i 9,500 o elusennau godi arian a chyfle iddynt arddangos eu gwaith. Sut i gymryd rhan Mae’r Big Give yn gwneud i’ch… Parhau i ddarllen Derbyn i’r Big Give!
Pam Dalcroze i Gymru? Gan Bethan Habron-James
Fe gefais i’r fraint o fynd i Genefa i astudio Dalcroze Eurhythmics ar ddiwedd y 90au, ar ol rhai blyndyddoedd o astudio rhan amser ym Manceinion. Ar ddiwedd fy nhreithawd hir ar gyfer fy arholiadau gradd fe ysgrifennais mai fy mreuddwyd un dydd, fyddai i rannu y dull addysg arloesol yma gyda fy nghydwladwyr Cymreig.… Parhau i ddarllen Pam Dalcroze i Gymru? Gan Bethan Habron-James
Mae’n gerddoriaeth i’n clustiau – cantorion yn ymuno ag Ensemble Cymru ar gyfer ein tymor newydd o Gyngherddau Coffi
Mae Tachwedd yn garreg filltir o bwys i’r sefydliad cerddoriaeth siambr, Ensemble Cymru. Am y tro cyntaf erioed, bydd cantorion yn perfformio fel rhan o’r ensemble ar gyfer ei dymor newydd sbon o Gyngherddau Coffi – cyfres y Lleisiau Clasurol. Bydd y soprano a anwyd ym Môn, Llio Evans, yn ymuno ag Ensemble Cymru ar… Parhau i ddarllen Mae’n gerddoriaeth i’n clustiau – cantorion yn ymuno ag Ensemble Cymru ar gyfer ein tymor newydd o Gyngherddau Coffi
Cyngherddau Coffi 2014-15 – llyfryn newydd y tymor
Croeso i gyfres y ‘Lleisiau Clasurol’ Ensemble Cymru, y tymor cyntaf yn hanes yr Ensemble sy’n canolbwyntio ar y llais. Ymunwch â’r Ensemble wrth ddarganfod cyfoeth o gerddoriaeth siambr newydd, gyffrous gyda chantorion amlwg o Gymru, yn nhymor mwyaf egnïol a gwefreiddiol yr Ensemble hyd yma. Lawrlwytho’r llyfryn Cyngherddau Coffi tymor 2014-15
Tanysgrifio i ein rhestr bostio drwy’r post
Os hoffech chi dderbyn copi o ein llyfryn tymor newydd sbon ar gyfer ycyngherddau coffi 2014 – 15, llenwch y ffurflen isod. [gravityform id=”18″ name=”Rhestr bostio drwy’r post”]
Cinio cerddorol Ensemble Cymru yn Galeri
Ymunwch â’r grŵp cerddoriaeth glasurol o Fangor, Ensemble Cymru, am ginio pur wahanol yn Galeri y mis Medi yma. Yn ‘Blas o Ensemble Cymru’ bydd triawd o gerddorion cerddoriaeth siambr amryddawn yn diddanu ciniawyr i raglen awr o gerddoriaeth fyw a fydd yn eich cyfareddu. P’un a ydi cerddoriaeth glasurol yn faes newydd i chi,… Parhau i ddarllen Cinio cerddorol Ensemble Cymru yn Galeri
Beth ddigwyddod pan wnaeth Ensemble Cymru gyfarfod â Chodi’r To…
Yn gynharach yn ystod yr haf, cafodd Ensemble Cymru wahoddiad gan dîm Codi’r To i ymweld â dwy ysgol y maen nhw’n gweithio â nhw yng Ngwynedd. Nid yn annisgwyl, neidiodd Ensemble Cymru at y cyfle i berfformio o flaen y plant a chymryd rhan mewn gweithdy gyda nhw. Aeth dau o’n myfyrwyr gwirfoddol, Milli… Parhau i ddarllen Beth ddigwyddod pan wnaeth Ensemble Cymru gyfarfod â Chodi’r To…
Y sesiynau ‘cyflwyno’: Dewch i gwrdd â Katka…
Dewch i adnabod y cerddorion y tu ôl i’r offerynnau gyda’n sesiynau ‘cyflwyno’. Yn gyntaf y mae’r ychwanegiad newydd at deulu Ensemble Cymru, Katka Marešová. Ganed a magwyd Katka yng Ngweriniaeth Tsiec, a chyrhaeddodd Brydain fis Medi’r llynedd i dreulio blwyddyn yn astudio ym, Mhrifysgol Bangor. Ac mae’n ymddangos bod tirwedd garw, fynyddig gogledd Cymru… Parhau i ddarllen Y sesiynau ‘cyflwyno’: Dewch i gwrdd â Katka…
