Rhoi amlygrwydd i gyfansoddwyr byw o Gymru

Y gwanwyn yma mae Ensemble Cymru a Chyfansoddwyr Cymru wedi ymuno i roi amlygrwydd i waith tri chyfansoddwr Cymreig.   Dewiswyd tri chyfansoddwr y perfformir eu gwaith mewn digwyddiadau arbennig cyn cyngherddau yn ystod taith genedlaethol Ensemble Cymru fis Mai eleni.

Cyflwyno ‘Eugene Onegin’ gan Tchaikovsky…

Wrth i ni baratoi i ymuno ag Opera Canolbarth Cymru ar gyfer taith y gwanwyn, gofynasom i’n Cyfarwyddwr Cerdd OCC, Jonathan Lyness rannu, ei farn ar Eugene Onegin Tchaikovsky fel darn, a’i brofiad o’r gwaith fel arweinydd. Cyflwyna John opera “hudol, synhwyrus, hardd a hypnotig” Tchaikovsky yn ei eiriau ei hun isod.

Croesawu Anne Denholm, prif delynores newydd Ensemble Cymru

Wrth i Ensemble Cymru baratoi at ddechrau tymor newydd ddiwedd mis Hydref, mae Anne Denholm, sydd newydd ei phenodi’n brif delynores yr Ensemble, yn rhoi golwg i ni ar ei swyddogaeth fel Telynores Frenhinol, ei hoffter o gerddoriaeth siambr, a sut y gwnaeth tyfu i fyny yng Nghymru helpu i feithrin ei huchelgais i chwarae’r… Continue reading Croesawu Anne Denholm, prif delynores newydd Ensemble Cymru

Ymunwch â ni am ChamberFest 2015

Rydym ar fin cynnal un o’r dathliadau mwyaf o gerddoriaeth siambr yng Nghymru, gŵyl ddeuddydd a alwn yn ChamberFest. Cerddorfa J.S. Bach yw thema’r digwyddiad sydd i’w gynnal yn 2015, gyda pherfformiadau a gweithgareddau mewn lleoliadau ar draws Bangor a Llandudno ar 20 a 21 Mawrth (ar 21 Mawrth y ganwyd Bach). Mae ein digwyddiad… Continue reading Ymunwch â ni am ChamberFest 2015

ChamberFest 2015: Bach

Rydym yn cynnal un o’r dathliadau mwyaf o gerddoriaeth siambr yng Nghymru a gelwir yr ŵyl yn ChamberFest. Y thema ar gyfer digwyddiad 2015 fydd cerddoriaeth J.S. Bach, a chynhelir y prif ddigwyddiad ar 20 a 21 Mawrth (21 Mawrth oedd pen-blwydd Bach). Y newyddion da yw bod y digwyddiad hwn yn agored i bawb! Rydym yn… Continue reading ChamberFest 2015: Bach